03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Datganiad llwm Y Canghellor yn siom i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cadw deupen llinyn ynghyd

MAE Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi dweud bod Datganiad y Gwanwyn yn destun siom i bobl sy’n cael trafferthion gyda chostau byw cynyddol.

Cyn i’r Canghellor gyflwyno Datganiad y Gwanwyn bu galwadau lu arno i roi rhagor o gymorth i helpu pobl i dalu eu biliau.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am fesurau gan gynnwys cynyddu budd-daliadau lles, treth ffawdelw ar gwmnïau ynni mawr, a chyflwyno tariff ynni incwm isel i dargedu cymorth yn well i aelwydydd incwm is.

Er bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi bron â dyblu ei rhagolwg chwyddiant ar gyfer eleni, o 4% i 7.4%, mae’r Canghellor wedi cyfyngu’r cynnydd mewn budd-daliadau i ddim ond 3.1% – ar ôl cynnydd o 0.5% y llynedd oedd yn is na chwyddiant.

Bydd rhagor o bwysau ar gyllidebau aelwydydd ym mis Ebrill, gyda biliau ynni a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynyddu.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae hi’n ddigon teg i bobl deimlo’n siomedig yn sgil y datganiad llwm heddiw. Mae biliau’n codi’n gyflym ac mae incwm gwario’n gostwng, ond does dim digon yn y datganiad heddiw sy’n cydnabod y frwydr y mae llawer yn ei hwynebu. Datganiad ideolegol, annheg yw datganiad y Canghellor heddiw. Mae’n brin o fesurau ymarferol i helpu’r rhai sydd fwyaf angen cymorth – does dim byd i bobl sy’n methu â gweithio nac i’r rhai sydd ar incwm is.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwastraffu’r cyfle i ddarparu cymorth ystyrlon. Mae’r datganiad yn dangos Canghellor digydymdeimlad ac yn dwysáu’r diffyg tegwch sylfaenol yn ymdrechion tila San Steffan i ddelio â’r argyfwng costau byw.”

Fis diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £330m ar gyfer costau byw, a oedd yn cynnwys taliadau tanwydd gaeaf estynedig o £200, taliad costau byw o £150 a rhagor o arian drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Yng Nghymru fe wnaethom ni ddarparu pecyn cymorth costau byw oedd yn werth bron i ddwbl y cymorth cyfatebol a ddarperir yn Lloegr. Rydym yn annog pawb i ymgyfarwyddo â’r hyn sydd ar gael ac i fanteisio ar y cymorth sy’n cael ei gynnig. Ond rydym hefyd yn cydnabod nad yw’n darparu’r atebion i gyd, ac mai gan San Steffan y mae llawer o’r dulliau allweddol fel cymorth lles. Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ymuno â ni i ddarparu ymateb llawn mewn argyfwng i helpu pobl gyda chostau byw cynyddol.”

%d bloggers like this: