YN ddiweddar, cyfarfu’r Prif Weinidog, Arweinydd Plaid Cymru a Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad â Chydgadeiryddion y Comisiwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ei waith.
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:
Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Mae Panel Arbenigol yn cael ei benodi i roi cymorth i’r Comisiwn ar amrywiaeth o arbenigeddau, gan gynnwys, llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, busnes, economeg a chyllid, i’w helpu i wneud argymhellion gwybodus.
Cyfarfu’r Comisiwn am y tro cyntaf ar 25 Tachwedd 2021, a mae bellach wedi cyfarfod i glywed tystiolaeth bum gwaith.
Hyd yma, mae’r Comisiwn wedi clywed tystiolaeth gan y bobl a’r sefydliadau canlynol:
Yr Arglwydd Dunlop; Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Y Gwir Anrhydeddus Yr Athro Carwyn Jones; Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Paul Murphy; Neil O’Brien AS, Gweinidog Lefelu i Fyny, yr Undeb a’r Cyfansoddiad, Llywodraeth y DU; Angus Robertson, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, Llywodraeth yr Alban; CBI Cymru; Siambrau Cymru; Comisiynydd Plant Cymru; Ffederasiwn Busnesau Bach, Cymru; Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru; Comisiwn Annibyniaeth, Plaid Cymru; Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru; Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Mae’r Comisiwn yn cynnal gweithdai technegol i ystyried rhai materion yn fanylach. Hyd yma, mae’r rhain wedi ymdrin a’r setliad datganoli presennol; datganoli cyllidol; ac ymgysylltu. Bydd gweithdai yn y dyfodol yn cynnwys archwiliad pellach o ddatganoli cyllidol.
Ar 31 Mawrth, lansiodd y Comisiwn alwad am dystiolaeth – Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Hyd yma (ar 19 Ebrill 2022), mae’r Comisiwn wedi derbyn 607 o ymatebion wedi’u cwblhau. Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn llywio cynnwys adroddiad interim y Comisiwn.Cafodd y Cyd-gadeiryddion eu cyfweld ar gyfer The Times, BBC Politics Wales, Sunday Supplement Vaughan Roderick, a Wales Cast, gyda’r Comisiwn yn ymddangos ar draws deg stori ar y diwrnod. Cynyddodd nifer y dilynwyr ar sianel Twitter y Comisiwn 38% (o 346 o ddilynwyr i 477) gyda sgôr o 98% o fynegiant cadarnhaol. Trydariad mwyaf poblogaidd y Comisiwn oedd graffig yn nodi opsiynau i’w hystyried ar gyfer y dyfodol (1,422 o ymrwymiadau a thros 33,000 o argraffiadau). Cafodd tudalen we’r Comisiwn 541 o ymweliadau.
Mae’r Comisiwn yn datblygu strategaeth ymgysylltu ehangach gyda’r bwriad o ymgysylltu â thrawstoriad eang o gymdeithas yng Nghymru.
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, a’i adroddiad llawn, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m