04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Datganiad ysgrifenedig gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dengys tystiolaeth ymchwil ac arolygu mai’r un dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn y system addysg yw ansawdd y dysgu a’r addysgu. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod athrawon yn cael cefnogaeth i ystyried sut y mae’r cwricwlwm a gwaith diwygio arall ym myd addysg yn mynd i effeithio ar ddeilliannau dysgwyr

Heddiw, rwy’n lansio’r ymgynghoriad ar y cynnig i ddarparu diwrnod ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd (HMS) ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol am y tair blynedd academaidd nesaf. Mae’r ymgynghoriad yn nodi y byddai’r diwrnod HMS ychwanegol wedi ei deilwra’n benodol at gefnogi’r proffesiwn gyda’r newidiadau mewn perthynas â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a blaenoriaethau cenedlaethol eraill, megis y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a thegwch mewn addysg.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd nes 28 Hydref 2022 ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y sector addysg, gan gynnwys ymarferwyr, rhieni/gofalwyr a dysgwyr, i gymryd rhan ac i ymateb i’r ymgynghoriad.

Diwrnodau ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd (HMS) ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol 2022 i 2025

https://llyw.cymru/diwrnodau-hms-cenedlaethol-ychwanegol-2022-i-2025

 

%d bloggers like this: