04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Datgelu cynlluniau Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

DATGELWYD uwchgynllun newydd i gwblhau’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.

Cyn bo hir, gallai’r safle, sydd ar hyn o bryd yn gartref i Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, Arena Iâ Cymru a’r Pwll Nofio Rhyngwladol, gynnal nifer o gyfleusterau chwaraeon newydd, gan gynnwys:

Felodrom 333m gyda thŷ clwb a stondin; cylched dolen gaeedig 1km, ar gyfer beicio, rhedeg a sgwteri/esgidiau rholio; siop feiciau fawr; Tŵr y Weiren Wib a lle i ddenu atyniadau chwaraeon/hamdden antur newydd

Yn ogystal â dod yn gartref i Felodrom newydd y ddinas, gallai’r Pentref cyfan gael ei gylchu gan gylched beicio ffordd, rhedeg a sgwter/rholio 1km o hyd, chwe metr o led.  Byddai’r trac hwn yn cael ei wahanu oddi wrth draffig cerddwyr a cherbydau a byddai hefyd am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer y cyhoedd ar adegau penodol.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr uwchgynllun yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 18 Mawrth, lle gofynnir iddo roi’r awdurdod i swyddogion y cyngor ddarparu’r felodrom newydd a pharhau i negodi bargen tir yn yr ardal i ganiatáu i’r cynlluniau symud ymlaen. Unwaith y bydd y gwaith achos busnes manwl wedi’i gwblhau i ddangos sut y caiff y cynlluniau eu hariannu, ymgynghorir â chymunedau lleol ar y prif gynllun fel rhan o’r broses gynllunio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:

“Dechreuodd y cyngor adfywio’r tir hwn yn y Bae ym 1999. Mae wedi bod yn brosiect cymhleth, hirdymor sy’n cynnwys gwaith adfer tir helaeth a buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith. Fodd bynnag, gallai’r cynlluniau newydd hyn weld felodrom yn cael ei agor erbyn 2022 a llu o atyniadau chwaraeon newydd cyffrous yn cael eu cyflwyno i gwblhau’r atyniad, gan ddod â lle newydd cyffrous i Gaerdydd i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau.

“Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau i gyflymu datblygiad ardal gyfagos y glannau, i gwblhau’r ardal breswyl newydd. Byddai rhodfa’r bae yn cael ei chadw’n llawn at ddefnydd y cyhoedd a gellid ailfodelu’r system ffordd bresennol er mwyn creu amgylchedd gwell i gerddwyr wrth wraidd y datblygiad hamdden, tra’n sicrhau mynediad traffig llawn i ddatblygiadau preswyl cyfredol a newydd.”

Meddai Anne Adams-King, Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru:

“Mae Beicio Cymru wedi bod yn ynghlwm wrth drafodaethau â Chyngor Caerdydd am adleoli’r felodrom o’r Maendy i’r Pentref Chwaraeon ac rydym yn gyffrous am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig ar gyfer beicio.

“Mae Beicio Cymru wedi bod yn rhan o’r broses ac mae British Cycling hefyd wedi cynnig mewnbwn technegol. At hynny, rydym wedi cael sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddefnyddio’r cyfleuster wrth drosglwyddo o’r Maendy i’r cyfleuster newydd.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Thîm Prosiect y Cyngor i helpu i ddatblygu cyfleuster a fydd yn cefnogi twf beicio.”

Dywedodd Deian Jones, Cadeirydd Clwb Beicio Maindy Flyers:

“Fel clwb sy’n tyfu ac sydd â hanes disglair, mae Maindy Flyers yn croesawu ymrwymiad Cyngor Caerdydd i drosglwyddo’n ddi-dor i gyfleuster newydd. Bydd datblygu’r gylchffordd ar ffordd gaeedig ynghyd â’r felodrom newydd yn darparu amgylchedd diogel i ddatblygu beicio ieuenctid ymhellach, a bydd aelodaeth y clwb sy’n cynnwys dros 150 o feicwyr dan 18 oed yn ei werthfawrogi.”

%d bloggers like this: