03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dathliadau wrth i fusnesau gefnogi AGB Llanelli

MAE busnesau Llanelli wedi penderfynu’n gadarn fod ganddynt ffydd yn eu tref.

Maent wedi pleidleisio’n gryf iawn o blaid parhau ag Ardal Gwella Busnes Ymlaen Llanelli.

Dywedodd 95 y cant o’r busnesau a bleidleisiodd eu bod am yr AGB, sydd wedi bod mewn bodolaeth yn Llanelli ers 2015.

Mae’r AGB yn canolbwyntio ar wella canol y dref drwy ymdrech ar y cyd, wrth i dalwyr ardrethi busnes gyfrannu at gronfa £456,000 a fydd yn cael ei defnyddio i hyrwyddo’r ardal, cynnal digwyddiadau i’r teulu, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a gwneud gwelliannau amgylcheddol dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Lesley Richards, Cadeirydd Ymlaen Llanelli: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd i ni, ac ni allen ni fod wedi dod drwyddi heb gymorth a chefnogaeth y rhai sy’n credu yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud i’n tref. Mae hwn yn gyfle bellach i ni ddiolch iddyn nhw. Mae gyda ni agenda lawn a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.”

Cyngor Sir Caerfyrddin wnaeth gynnal pleidlais yr AGB.

Mae’r Cyngor wedi cefnogi AGB Llanelli ers cryn amser, a dywedodd fod y newyddion y bydd yn parhau yn newyddion wych.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Dyma i chi newydd penigamp, ac mae’n arwydd cadarnhaol a chalonogol iawn wrth i ni geisio adfer ar ôl Covid-19 a bywiogi canol tref Llanelli unwaith eto. Mae ymdrechion busnesau lleol, dan arweiniad tîm Ymlaen Llanelli, wedi cefnogi canol y dref dros y pum mlynedd diwethaf, a hynny ar ffurf amrywiaeth o ddigwyddiadau sydd wedi denu miloedd o bobl i’r dref. Edrychwn ymlaen at weithio gyda thîm yr AGB yn y dyfodol, er mwyn parhau â’n hymdrechion i ddod â bwrlwm o’r newydd i ganol tref Llanelli.”

Partneriaethau a arweinir gan fusnesau yw Ardaloedd Gwella Busnes, sy’n cael eu creu drwy broses bleidleisio i ddarparu gwasanaethau ychwanegol i fusnesau lleol.

Gallant fod yn ddull pwerus o gynnwys busnesau lleol yn uniongyrchol mewn gweithgareddau lleol ac o ganiatáu i’r gymuned fusnes ac awdurdodau lleol gydweithio i wella’r amgylchedd masnachu lleol.

Ardal benodol yw Ardal Gwella Busnes lle codir ardoll ar bob talwr ardrethi, yn ogystal â’r bil ardrethi busnes. Defnyddir yr ardoll i ddatblygu prosiectau y bydd busnesau’r ardal leol yn elwa arnynt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn – Aelod o’r Senedd: “Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a’u gwneud yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gall Ardaloedd Gwell Busnes chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio ardaloedd drwy roi un llais ar y cyd i fusnesau, cefnogi twf economaidd a chryfhau cymunedau. Mae’n wych gweld busnesau yn Llanelli yn cefnogi AGB Ymlaen Llanelli am dymor arall, gan ei fod wedi cael ei brofi fod AGB effeithiol yn ysgogi newid lleol ac yn fodd o reoli’r stryd fawr a chanol trefi.”

 

%d bloggers like this: