04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dathlu Merched Anhygoel mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

Mae seremoni wobrwyo wedi cyflwyno anrhydeddau yn rhithiol, ar hyd a lled y genedl i gydnabod cyflawniadau rhai o fenywod mwyaf anhygoel Cymru.

Cafodd Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021 eu ffrydio neithiwr (30.9.2021) ar Facebook a Twitter gan arddangos yr enillwyr a’r teilyngwyr sy’n gwneud y fath wahaniaeth i bobl eraill a’u cymunedau.

Cyflwynwyd y seremoni gan Andrea Byrne o ITV Cymru Wales a’r actores a chyflwynydd o Gymru Elin Pavli-Hinde, ac roedd ar agor i gynulleidfa ar-lein fyd-eang, er mwyn rhannu newyddion am lwyddiannau’r teilyngwyr.

Yr enillydd mwyaf ar y noson oedd y meddyg a’r gwyddonydd Bnar Talabani sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymdrech i fynd i’r afael ag ansicrwydd a chamwybodaeth ynghylch brechlyn Covid-19.

Derbyniodd y Wobr Menyw Mewn Iechyd a Gofal yn ogystal â theitl cyffredinol Pencampwraig Womenspire 2021 ar ôl creu argraff ar y beirniaid gyda’i chynhesrwydd, ei gwydnwch anhygoel, ei phenderfyniad, a’i dewrder wrth wynebu adfyd.

 

Gan gyrraedd y DU fel plentyn yn 1998, yn ffoadur o Irac, ni fyddai wedi bod yn bosibl rhagweld dyfodol disglair un a gafodd y fath ddechrau dirdynnol. Mae Bnar wedi bod ar flaen y gad yn yr ymdrech i fynd i’r afael ag ansicrwydd a chamwybodaeth ynghylch brechlyn Covid-19. Gan lenwi gwagle a welodd o ran y wybodaeth oedd ar gael mewn gwahanol ieithoedd ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, roedd hi’n allweddol o ran ffurfio Muslim Doctors Cymru. A phan nad yw hi wrthi’n gweithio’n galed yn darparu gwybodaeth i rai sy’n petruso ynghylch y brechlyn, fe welwch chi hi ar TikTok yn chwalu’r mythau.

Roedd yr enillwyr yn y categorïau eraill fel a ganlyn:

Pencampwraig Gymunedol: Roon Adam (Caerdydd) – rheolwraig gwasanaethau cynghori yn Race Equality First sy’n mynd y tu hwnt i’w rôl er mwyn helpu a chefnogi aelodau o’i chymuned leol.
Aelod O’r Bwrdd: Karen Harvey-Cooke (Y Barri) – ar fwrdd Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru, gan rannu ei gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda’r sefydliad.
Arweinydd: Dr Gwenllian Lansdown Davies (Llanerfyl) – Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, enghraifft fodel rôl ysbrydoledig, sy’n gweithio’n gyson i greu diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn bwysig.
Menyw Mewn STEM: Sam Wheeler (Merthyr Cynog, Aberhonddu) – Cyfarwyddwr Big Lemon sydd wedi ei drawsnewid yn asiantaeth ddigidol ‘technoleg er daioni’.
Menyw Mewn Chwaraeon: Nikki Sibeon (Maes Glas, Treffynnon) – arweiniodd cyflwr genetig heb ei ddarganfod at golli ei golwg yn 21 oed, ac eto mae hi wedi llwyddo i ennill ei gwregys du mewn Taekwondo ac mae’n bencampwraig sglefrio iâ.
Seren Ddisglair: Jessica Dunrod (Caerdydd) – Perchennog dau gwmni cyfieithu, Jessica yw’r awdur plant Du cyntaf a anwyd yng Nghymru ers rhyddhau “Your Hair is Your Crown” ac “Eithriadol”. Mae’r llyfrau’n newid safbwyntiau plant o’r hyn y gall merched fod.

Entrepreneur: Leanne Holder (Arberth) – sefydlodd BecauseRaceCarBox, blwch tanysgrifio ar gyfer rhai sy’n frwdfrydig am lanhau eu ceir ac mae hi’n gweithio i ysbrydoli entrepreneuriaid benywaidd i fod mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion.

Dysgwr: Kate Bennett-Davies (Caerdydd) – wedi iddi gael diagnosis o ME yn 14 oed, llwyddodd Kate i gyrraedd y brifysgol, ond bu’n rhaid iddi adael oherwydd salwch. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae hi wedi gorffen ei blwyddyn gyntaf o gwrs dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd.
Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd: Mike Taggart (Y Rhyl) – swyddog cam-drin domestig strategol gyda heddlu Gogledd Cymru, gyda ffocws ar helpu eraill i beidio â bod yn wyliwyr tawel cam-drin domestig.

Aeth Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg – ar gyfer busnes neu sefydliad – i Celtic English Academy, ar ôl dangos tystiolaeth o’i hymrwymiad cadarn i degwch, cynwysoldeb, llesiant a hyblygrwydd yn y gweithle.

Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Dyma’r chweched flwyddyn i ni gynnal gwobrau Womenspire ac unwaith eto mae hi wedi bod yn wych clywed straeon ein holl deilyngwyr a’u llwyddiannau anhygoel. Yn Chwarae Teg gwyddom pa mor bwysig yw tynnu sylw at y cyflawniadau hyn. Felly, rhaid i mi longyfarch yr holl deilyngwyr, yr enillwyr a phawb sydd wedi ymwneud â’r gwobrau a diolch yn fawr iddyn nhw am wneud Womenspire 2021 yn llwyddiant mawr eto eleni.

“Mae lle Bnar fel Pencampwraig Womenspire yn adlewyrchu’r rhwystrau aruthrol y bu’n rhaid iddi eu goresgyn a’r ffaith ei bod, drwy waith caled a phenderfyniad, wedi gwneud gwahaniaethau enfawr i’w bywyd ei hun yn ogystal â bywydau pobl eraill. Mae hi’n unigolyn dewr ac yn gosod esiampl anhygoel.”

 

%d bloggers like this: