04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dau ‘hwb symudol’ newydd er mwyn cynyddu cefnogaeth i bobl ifainc mewn cymunedau

CYN bo hir bydd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor (YEPS) yn derbyn dau gerbyd newydd i’w defnyddio’n ‘hybiau symudol’, a hynny er mwyn cynyddu’r gefnogaeth i bobl ifainc mewn cymunedau lle does dim lleoliadau i gynnal gweithgareddau a sesiynau lleol.

Nod yr hybiau newydd yw cynyddu gallu YEPS i gyrraedd pob rhan o Rondda Cynon Taf, yn yr ardaloedd hynny lle does dim darpariaeth wedi bod yn y gorffennol. Byddan nhw’n dechrau cael eu defnyddio erbyn diwedd mis Ebrill 2021. Bydd y cerbydau wedi’u gwresogi yn cynnwys ardaloedd eistedd, cysylltiadau ar gyfer gliniaduron, Wi-Fi a sgriniau teledu.

Bydd y ddarpariaeth newydd yn cynnal gweithgareddau fel clybiau ieuenctid, sesiynau chwarae gemau ar-lein, celf a chrefft, nosweithiau ffilm a gweithgareddau chwaraeon. Yn ogystal â hyn, bydd darpariaeth wedi’i thargedu, fel ysgrifennu CV, cymorth wrth geisio am swydd, technegau cyfweld a chymorth cyfrinachol wyneb yn wyneb gan weithwyr ieuenctid.

Bydd YEPS hefyd yn defnyddio’r cerbydau yn ystod achlysuron blynyddol yn y gymuned ehangach, fel Diwrnod y Lluoedd Arfog a Chegaid o Fwyd Cymru. Byddan nhw hefyd yn cael eu defnyddio pan fydd angen i’r gwasanaeth ymateb ar unwaith mewn cymuned benodol – er enghraifft, i ddarparu cefnogaeth i bobl ifainc ar ôl digwyddiad mawr.

Mae’r hybiau’n ddiogel o ran COVID ac felly’n addas i’w defnyddio yn ystod y pandemig, a hynny am fod modd cadw’r drysau mewnol ar agor er mwyn awyru’r cerbyd cyfan.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: 

“Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor (YEPS) yn rhwydwaith amhrisiadwy i bobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf. Drwy gydol y pandemig, mae wedi darparu mwy o gefnogaeth, a hynny ar adeg pan mae ein pobl ifainc yn wynebu llawer o ansicrwydd ac mae anghenion iechyd meddwl a lles ar gynnydd. 

“Bydd yr hybiau symudol newydd yn dechrau cael eu defnyddio dros yr wythnosau nesaf a byddan nhw’n cynyddu gallu YEPS i gyrraedd mwy o bobl ifainc. Mae’r gwasanaeth yma’n defnyddio’r un cysyniad â Llyfrgell Deithiol y Cyngor, sef dod â’r gwasanaeth i stepen drws pobl. Bydd y cerbydau’n darparu canolbwynt yn yr ardaloedd hynny lle does dim lleoliadau addas i gynnal gweithgareddau ieuenctid, a byddan nhw o fudd i bobl ifainc mewn nifer o gymunedau.”

%d bloggers like this: