04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’’ ydy’r neges i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig ”chi ddim ar eich pen eich hun”

MAE’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw wedi lansio ymgyrch newydd i sicrhau bod y rhai sy’n dioddef ac wedi goroesi camdriniaeth ddomestig yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a bod modd iddyn nhw gael cymorth drwy gydol yr argyfwng coronafeirws a thu hwnt.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog y rhai sydd gerllaw i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a cheisio cymorth ar gyfer y rhai sy’n methu gofyn am gymorth eu hunain.

Yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symud yn sgil y coronafeirws, mae nifer yr achosion o ddynladdiad drwy drais domestig wedi cynyddu. Mae ynysu cymdeithasol wedi ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n cam-drin reoli’r dioddefwyr, ac wedi ei gwneud yn anoddach i’r dioddefwyr geisio cael cymorth tra bod y rhai sy’n eu cam-drin yn cadw llygad arnynt.

Dywedodd Jane Hutt: “Rwy’n lansio’r ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ heddiw er mwyn rhoi gwybod i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth ein bod ni yma i helpu.

“Efallai mai gweithwyr mewn siopau, postmyn, gyrwyr faniau bwyd, gwirfoddolwyr yn y gymuned, ffrindiau a chymdogion yw’r unig bobl y bydd dioddefwyr yn eu gweld yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngu ar symudiadau, felly mae’n hanfodol bwysig iddyn nhw adnabod arwyddion cam-drin domestig. Rwy’n annog pawb i fod yn wyliadwrus ar hyn o bryd – mae cymorth ar gael.

“Rydyn ni’n gwybod bod y sefyllfa bresennol wedi cynyddu’r risg i’r dioddefwyr. Mae’n gyfnod arswydus iawn. Boed yn dioddef camdriniaeth, neu yn pryderu am berthynas, ffrind, cymydog, cydweithiwr neu rywun rydych chi’n ei helpu yn y cyfnod heriol sydd ohoni, mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.

“Mae’n bwysig i’r bobl sydd gerllaw ofyn am help mewn ffordd ddiogel, serch hynny, er eu mwyn eu hunain ac er mwyn y person sy’n dioddef camdriniaeth. Peidiwch ag ymyrryd – ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn, neu ffoniwch 999 os ydych chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl uniongyrchol. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi lansio Pecyn Cymorth sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i unrhyw un sy’n pryderu bod rhywun arall yn dioddef trais neu gamdriniaeth.

“Efallai ei bod yn anoddach cael help ar hyn o bryd, ond rwy’ am i chi wybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd. Fyddwch chi ddim mewn trwbl os bydd angen i chi adael eich cartref i fod yn ddiogel.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, heddluoedd Cymru, cynghorau, elusennau, a sefydliadau arbenigol sy’n darparu gwasanaethau cam-drin domestig er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy’n dianc rhag camdriniaeth rywle diogel i fynd iddo.

“Gallwch gael cymorth drwy anfon neges destun neu e-bost, drwy sgwrsio byw neu dros y ffôn. Bydd yr heddlu hefyd yn ymateb i alwad 999 dawel – ffoniwch 999 fel arfer, a phan fydd yr alwad yn cael ei hateb, pwyswch 55. Does dim rhaid i chi siarad, bydd yr heddlu yn ymateb.

“Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cwrs e-ddysgu ar-lein er mwyn eich helpu i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a deall sut y gallwch helpu. Mae ar gael yma – https://learning2.wales.nhs.uk/course/view.php?id=71

Dywedodd Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick: “Mae Cymorth i Ferched Cymru yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’. Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol yn arwain at gynnydd ym mhob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, ac yn cael effaith ddifrifol ar ddiogelwch a lles y goroeswyr.

“Mae ymateb y gymuned ac undod cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ar gyfer herio trais o’r fath. Rydyn ni wedi’n syfrdanu gan yr holl negeseuon cefnogol gan y gymuned, ond mae angen i ni sicrhau ein bod bob amser yn ymateb yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol bosib ar gyfer y goroeswyr.

“Er mwyn helpu gyda hyn, rydyn ni wedi datblygu pecyn cymorth sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth benodol ar gyfer amrywiol aelodau o’r gymuned, o wirfoddolwyr i gyflogwyr, ynghyd ag unigolion, er mwyn tynnu sylw at oroeswyr a’u cefnogi. Rydym yn gobeithio y bydd y ddwy ymgyrch yn ysgogi Cymru i sefyll yn gadarn wrth ochr y goroeswyr, gan ddweud yn glir nad ydyn nhw ar ben eu hunain a bod help ar gael.”

Rywun sy’n dioddef trais neu gamdriniaeth yn y cartref, neu yn pryderu am rywun, mae llinell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn ar gael yn rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

%d bloggers like this: