04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dechrau cwympo coed i daclo clefyd coed ynn ar waith

MAE gwaith cwympo coed wedi dechrau yn Sir Gâr i waredu’r coed ynn heintiedig sy’n risg i ddefnyddwyr ffordd.

Mae gwaith yn cael ei wneud yn ardaloedd Llandeilo, Llanymddyfri, Talyllychau a Chwm-ann i gael gwared ar nifer o goed yr effeithiwyd arnynt gan glefyd coed ynn.

Cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r coed hyn, ac maent yn dangos arwyddion o’r clefyd yn o leiaf 50 y cant o’u corun. Felly maent yn cael eu cwympo gan fod peryg y gallent gwympo ar y ffordd.

Y gwaith sy’n cael ei wneud:

A482 Llwynygroes – Chwefror 3 a 4

A482 Pontcwm Llynfe – Chwefror 9

B4302 a B4337 Rhydodyn – Chwefror 10

A476 Gelli Aur – Chwefror 16, 17 a 18

Bydd camau rheoli traffig tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, a allai achosi rhywfaint o darfu.

Lle torrir coed aeddfed, gosodir blychau ystlumod ar goed iach cyfagos i helpu o ran y posibilrwydd bod cynefinoedd yn cael eu colli.

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, sy’n glynu wrth ddail coed ynn ac yn ymledu i’r canghennau, gan achosi i’r coed farw. Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg ddifrifol i’r cyhoedd.

Mae’r rhan fwyaf o’r coed ynn heintiedig sydd ger priffyrdd mewn perchnogaeth breifat, ac mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr sy’n gyfrifol amdanynt er mwyn eu hannog i fynd ati i waredu unrhyw goed sy’n achosi’r un fath o risg i’r cyhoedd.

Rhagor o wybodaeth am glefyd coed ynn gan gynnwys gwybodaeth a chyngor i dirfeddianwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:

“Mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i gynghorau a pherchnogion tir ar draws y DU; amcangyfrifir y gallai 90% o goed ynn farw o’r clefyd hwn nad oes unrhyw driniaeth ar ei gyfer ar hyn o bryd.

“Yn anffodus, does gan y Cyngor ddim dewis ond cael gwared ar goed heintiedig os yw nhw mewn man sy’n peri risg i ddiogelwch y cyhoedd. Byddwn ni’n ceisio lleihau i’r graddau mwyaf posib y tarfu fydd hyn yn ei achosi i ddefnyddwyr ffordd.”

Mae cael gwared ar goed â chlefyd coed ynn yn dasg beryglus ac arbenigol a dim ond llawfeddygon coed profiadol ddylai gyflawni’r gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Fioamrywiaeth:

“Rydym ni’n gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r effaith ar ein bywyd gwyllt, er enghraifft, lle mae’n rhaid i ni gael gwared ar goed heintiedig, rydym yn gosod nifer o flychau ystlumod ar goed iach i roi safleoedd clwydo newydd iddyn nhw.

“Byddwn ni hefyd yn cynnal rhaglen plannu coed i helpu i wneud iawn am golli coed ynn yn y sir.”

 

%d bloggers like this: