MAE gwaith adeiladu wedi dechrau i greu atyniad newydd Splash Pad ar gyfer plant a theuluoedd i gymryd lle’r cyfleuster poblogaidd Aquasplash a arferai fod ar lan y môr yn Aberafan.
Bydd yr atyniad newydd yn cynnwys dros 30 nodwedd dŵr cyffrous, gan gynnwys ffynhonnau, jetiau dŵr a ‘rhaeadrau’.
Bu Aquasplash yn atyniad eithriadol lwyddiannus ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr am flynyddoedd lawr. Yn anffodus, roedd cost y gwaith atgyweirio a chynnal a chadw fyddai’n angenrheidiol i’w gadw ar agor am dymor arall wedi peri nad oedd yn ariannol ddichonadwy.
Daeth hi’n bryd felly cael rhywbeth yn ei le.
Ni fydd gan y Splash Pad newydd bwll o ddŵr llonydd yn ei ganol, am fod hyn yn creu anawsterau a heriau lu er. mwyn cynnal a phrofi ansawdd y dŵr cyn y gall y cyhoedd ei ddefnyddio, sy’n gallu llyncu amser ac arian.
Yn hytrach, bydd y ffynhonnau, jetiau a rhaeadrau dŵr yn cael eu taenu ar draws ardal chwarae ganolog. Bydd y gwaith, a ddechreuodd ar Chwefror 1, hefyd yn cynnwys lle newydd i eistedd a chyfleusterau o gwmpas safle’r Splash Pad.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Ustigate Ltd.
Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy:
“Dyma brosiect allweddol yng ngwaith adfywio parhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer glan y môr yn Aberafan, a fydd yn cynnig budd mawr i fusnesau lleol am y bydd y cynllun yn cynyddu’r niferoedd ymwelwyr i’r ardal.
“Hefyd, bydd pobl leol a’r gymuned ehangach yn elwa am y bydd y cynllun yn cyfrannu at greu ardal parth cyhoeddus deniadol mewn lleoliad allweddol sy’n edrych dros draeth Aberafan.”
More Stories
Cyhoeddi ‘Cymru’r Dyfodol y cynllun cenedlaethol 2040’
South Wales Police release CCTV image following Swansea robbery
Cyffro a gwenu wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol