04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Deifio Dwfn Bioamrywiaeth yn annog Llywodraeth Cymru i dreblu’r gwaith o adfer mawndiroedd

HEDDIW mae ‘Deifio Dwfn Bioamrywiaeth’ dan arweiniad arbenigwr – a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu’r ffordd orau o gyflymu adferiad byd natur ar draws y tir a’r môr – wedi nodi ei argymhellion.

Mewn ymateb cyflym, treblodd Llywodraeth Cymru ei thargedau adfer mawndiroedd gan addo camau pellach i adfer bywyd gwyllt a phlanhigion Cymru.

Mae colli bioamrywiaeth a dymchweliad ecosystemau yn fygythiad mawr i ddynoliaeth. Mae adfer ein byd naturiol yn hanfodol ar gyfer y gwasanaethau am ddim y mae ecosystemau cymhleth yn eu darparu i ni – boed hynny’n ddŵr ffres i’w yfed neu’n briddoedd iach i’n bwyd dyfu ynddynt.

Fel llawer o’r byd datblygedig, yng Nghymru, mae colli coedwigoedd, ysbeilio moroedd, a’r llygredd a achosir gan weithgarwch dynol wedi arwain at ddiflaniad tua hanner bywyd anifeiliaid a phlanhigion Cymru.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar nod ’30 erbyn 30′ y Cenhedloedd Unedig, sy’n anelu at warchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned a 30% o dir y blaned yn effeithiol erbyn 2030. Mae’r Deifio Dwfn yn cael ei ryddhau cyn Cynhadledd nodedig y Partïon (COP15) y Cenhedloedd Unedig yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cyfarfod i gytuno ar dargedau i frwydro yn erbyn yr argyfwng natur.

Cyhoeddodd y Gweinidog heddiw hefyd ei bod yn sefydlu gweithgor arbenigol annibynnol i fonitro cynnydd Cymru yn erbyn y targedau.
Mae’r Deifio Dwfn Bioamrywiaeth yn pennu’r argymhellion canlynol:

Trawsnewid portffolio safleoedd gwarchodedig Cymru fel ei fod wedi’i gysylltu’n well, yn fwy ac yn fwy effeithiol fel bod planhigion a bywyd gwyllt yn gallu teithio ac addasu i newid yn yr hinsawdd;

Creu rhwydwaith o Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur ar draws ystod o wahanol gynefinoedd lled-naturiol a nodi cyfleoedd ar gyfer Mesurau Cadwraeth Eraill Seiliedig ar Ardal (OECMs);

Cynyddu ôl troed y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig;

Datgloi potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) fel eu bod yn darparu mwy ar gyfer nature;

Sicrhau bod penderfyniadau cynllunio tir a morol yn ystyried bioamrywiaeth a bod penderfyniadau da yn cael eu cymell;

Adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy feithrin gallu, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau; ac hefyd

Datblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur cynnydd yn erbyn 30 erbyn 30

Wrth siarad o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle cyfarfu panel o academyddion ac ymarferwyr byd natur gorau’r wlad i drafod y Deifio Dwfn, addawodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y byddai’n troi cyngor yn weithredu, wrth iddi alw am ymdrech ‘Tîm Cymru’ i cyrraedd y targed o ’30 erbyn 30′.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Os byddwn ni’n rhoi help llaw i fyd natur mae’n dychwelyd y rhodd sawl gwaith.

Mae’r Deifio Dwfn Bioamrywiaeth heddiw yn ein helpu ni i ailfeddwl ar fyrder am ein perthynas ni â byd natur a sut i wneud y dewisiadau gorau nesaf sydd o fudd i ni a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Dyma pam ein bod ni, gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, yn treblu ein targedau adfer mawndiroedd i roi hwb i bryfed ac adar a dod â sicrwydd i’n cyflenwad dŵr croyw yng Nghymru.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud y bydd y camau brys a weithredir dros y degawd nesaf yn pennu pa mor ddifrifol yw’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Meddai’r Gweinidog wedyn:

“Mae arnom ni angen ymdrech Tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu pendant fel ein bod yn gallu atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a rhoi hwb i’r gwaith o adfer ein hecosystemau i’w hen ogoniant. Mae ein hiechyd, ein hapusrwydd a’n dyfodol yn dibynnu ar hyn”

Dywedodd aelod o RSPB Cymru a’r panel deifio dwfn bioamrywiaeth, Sharon Thompson:

“Wrth i ni nesáu at Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 ym Montreal ym mis Rhagfyr, lle rydyn ni eisiau i arweinwyr byd-eang gytuno ar dargedau uchelgeisiol i adfer byd natur, ni allai’r Deifio Dwfn yma fod wedi’i gynnal ar amser pwysicach. Rydyn ni mewn Argyfwng Natur a Hinsawdd, a gyda’r potensial o fygythiadau gwirioneddol sylweddol i fyd natur mewn mannau eraill, mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr bod argymhellion y Deifio Dwfn yn cael eu rhoi ar waith ar frys yng Nghymru.”

%d bloggers like this: