04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Deiseb yn erbyn mwd niwclear o Hinkley Point wedi casglu deg mil o lofnodion

MAE’R ffrae dros garthu mwd o orsaf ynni niwclear Hinkley Point a’i ryddhau yn nyfroedd Cymru yn ôl dan y chwyddwydr wrth i ymgyrchwyr lwyddo i gasglu 10,000 o lofnodion ar gyfer deiseb sy’n galw am brofi’r mwd.

Gan fod y ddeiseb wedi casglu dros 5,000 o lofnodion, mae’n golygu nawr y bydd y pwnc dadleuol yn destun dadl yn Senedd Cymru.

Disgwylir i 780,000 tunnell o waddod o orsaf niwclear gael ei ollwng yn y môr gwta filltir o brif ddinas Cymru.

Mae’r ddeiseb, a grëwyd gan Cian Ciaran o’r Super Furry Animals, yn mynnu ‘bod Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) llawn yn cael ei gynnal cyn y gellir dympio unrhyw waddod pellach o orsaf ynni niwclear Hinkley Point’.

Croesawyd y newyddion gan arweinydd y Blaid Genedlaethol Neil McEvoy AS, sydd wedi bod yn llais amlwg yn yr ymgyrch,

“Ni all y Llywodraeth Lafur anwybyddu’r mater hwn bellach”.

“Sut allwn ni ganiatáu i 780,000 tunnell o ddeunydd a garthwyd o’r tu allan i orsaf ynni niwclear gael ei ollwng yn ein dyfroedd heb ei brofi’n iawn? Mae gan y Llywodraeth dan arweiniad Llafur a Chyfoeth Naturiol Cymru lawer iawn i’w ateb.

“Mae’r cyhoedd yn poeni am y mater hwn. Mae amgylcheddwyr yn gandryll. Mae gwyddonwyr amlwg yn dweud eu bod yn poeni o ddifrif am hyn. Yr unig bobl nad ydynt yn poeni dim oll am hyn yw gwleidyddion y blaid Lafur sy’n eistedd ym Mae Caerdydd.

“Mae hyn yn anad dim yn ymwneud â diogelwch ein pobl a’n hamgylchedd morol. Mae hefyd yn ymwneud â sut mae Cymru yn cael ei thrin fel cenedl. Cyflwynodd Tseina waharddiad amser maith yn ôl ar ‘sbwriel tramor’ i atal gwledydd eraill rhag cael gwared ar eu sbwriel yno. Yng Nghymru, mae’n ymddangos bod ein llywodraeth yn croesawu triniaeth o’r fath. Ond mae pobl Cymru wedi cael digon.”

Dechreuodd y ffrae yn 2018, unwaith y datgelwyd bod y Llywodraeth dan arweiniad Llafur wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer dympio 300,000 tunnell o waddod o’r tu allan i orsaf niwclear Hinkley Point.

Disgwylir i EDF Energy adneuo 780,000 tunnell pellach o waddod oddi ar arfordir Cymru y flwyddyn nesaf, fel rhan o waith adeiladu ar gyfer yr adweithydd Hinkley Point C newydd, sydd werth £22bn.

%d bloggers like this: