03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

”Dibynnu ar San Steffan yn neud niwed i’n plant a phobl ifanc” medd Plaid Cymru

MAE Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllïan AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu cynyddu capasiti profi er mwyn arbed niferoedd uchel o absenoldebau ysgol.

Mae dibynnu ar system profi Brydeinig sy’n cael ei reoli gan Lywodraeth San Steffan yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion yng Nghymru mae MsGwenllïan wedi’i ddweud.

Mae diffyg argaeledd profi wedi golygu fod nifer o ddisgyblion yng Nghymru yn absennol o’r ysgol yn hirach nag sydd angen yn unol ag polisïau ysgol sydd ddim yn caniatâu i unigolion symptomatig i ddychwelid i’r ysgol heblaw eu bod nhw wedi profi’n negatif ar gyfer cofid-19.

Ar hyn o bryd mae 55 o ysgolion yng Nghymru wedi adrodd achosion o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Dwedodd Ms Gwenllïan fod ei “mewnflwch yn llawn e-byst gan rieni ar draws Cymru” sy’n profi’r broblem yma, a bod dibynnu ar gynllun profi led led y DU wedi bod yn niweidiol i addysg plant.

Dwedodd Siân Gwenllïan:

“Mae yna wallau enfawr o fewn y strategaeth brofi ar gyfer ysgolion, a dyw’r gweinidog addysg ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb drosto. Mae’r oedi a’r diffyg profion yn golygu bod gormod o ddisgyblion yn absennol o hysgolion heb angen ac yn colli allan ar ei haddysg unwaith eto.

“Mae fy mewnflwch yn llawn e-byst gan rieni ar draws Cymru sy’n dweud bod eu hysgolion wedi danfon eu plant adref ond nad oes modd cael gafael ar brawf trwy’r post na thrwy ganolfan profi drwy ffenest (drive in) – sy’n golygu nad yw’r plentyn yn medru dychwelyd i’r ysgol.

“Mae dibynnu ar system profi San Steffan nawr yn achosi niwed i addysg ein plant a phobl Ifanc – addysg sydd yn barod wedi’i effeithio cymaint gan y feirws.

“Dyma fy neges i’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd. Derbyniwch gyfrifoldeb. Defnyddiwch yr holl gapasiti sydd yn ein gwasanaeth iechyd gwladol a chyflymwch ar y cynlluniau i gynyddu capasiti profi. Gallwn ni ddim aros tan fis Tachwedd i ddatrys hyn.

%d bloggers like this: