04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd sbon yn gweld cŵn yn cael eu gwahardd o feysydd chwaraeon wedi’u marcio yn Sir Caerffili er budd diogelwch chwaraewyr.

Ym mis Tachwedd 2021, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwyodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) sy’n cynnwys cyfyngiadau newydd mewn perthynas â rheoli cŵn.

Ers cyflwyno’r Gorchymyn ym mis Hydref 2017, ymchwiliwyd i dros 2,136 o gwynion am faw cŵn. Mae 64 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi cael eu cyflwyno ar gyfer baw cŵn neu am fethu â chario bagiau i lanhau baw cŵn. Cafwyd 28 erlyniad hefyd yn erbyn y rhai a wrthododd dalu’r ddirwy.

Cynhaliwyd ymgynghoriad 10 wythnos hyd gyda thrigolion a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Heddlu Gwent, Dogs Trust a’r Kennel Club yn 2021.  Roedd 85% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cyfyngiadau cyfredol a chytunodd 54% â’r cynnig i ymestyn y gorchymyn i wahardd cŵn rhag caeau chwaraeon wedi’u marcio.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Ym mis Mai 2019, cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol gydag 82 o glybiau chwaraeon ar draws y Fwrdeistref Sirol. Roedd yr ymgynghoriad anffurfiol yn cynnwys holiadur yn cynnwys cwestiynau caeedig ynghylch baw cŵn ar feysydd chwaraeon. O’r 24 clwb a ymatebodd, teimlai 71% fod y nifer o faw cŵn wedi cynyddu neu wedi aros yr un fath ac roedd 88% yn cefnogi gwahardd cŵn o feysydd chwaraeon wedi’u marcio.

Dywedodd Cory Cashman (12 oed), chwaraewr rygbi yng Nghlwb Rygbi Rhisga:

“Nid yw’n braf gweld baw cŵn ar y cae pan fyddaf yn chwarae gyda ffrindiau a gyda’r clwb; mae’n ein hatal rhag gallu rhedeg a chwarae’n rhydd rhag ofn i ni syrthio ynddo.”

Thema gyffredin ar gyfer cefnogi’r cynnig oedd sicrhau amgylchedd diogel a glân i blant ac oedolion ymarfer corff ac annog perchnogaeth gyfrifol o gŵn.  Amlygodd clybiau chwaraeon hefyd pa mor aml y mae gemau’n cael eu gohirio neu eu hatal i ddelio â baw cŵn ar y cae.

Nod y Cyngor yw hyrwyddo perchnogaeth cŵn gyfrifol a lleihau cwynion am faterion cŵn megis cŵn yn baeddu. Mae hyn yn caniatáu i’r cyhoedd, ac yn enwedig plant, gael mynediad i fannau heb cŵn neu ardaloedd sy’n cael eu rheoli o ran cŵn sydd hefyd at ddibenion hamdden i wella iechyd a lles, gan wneud Bwrdeistref Caerffili yn lle diogel a phleserus i fyw ynddo.

Mae’r Cyngor yn bwriadu lleihau a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chŵn sy’n achosi niwsans i eraill a, hefyd, leihau’r goblygiadau iechyd posibl sy’n gysylltiedig â baw cŵn.

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â chwe throsedd, sef:
Eithrio cŵn o bob man chwarae amlddefnydd ac ardal chwarae caeedig i blant

Mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn mewn gerddi coffa caeëdig;

Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared ar faw ci mewn mannau cyhoeddus;

Bod perchnogion cŵn yn cario cynhwysydd priodol ar gyfer ymdrin â’r gwastraff y mae eu cŵn yn cynhyrchu (hynny yw, bod modd iddynt godi baw eu cŵn ar bob adeg);

Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i’w gwneud ar unrhyw dir cyhoeddus lle ystyrir nad yw’r ci o dan reolaeth neu’n achosi niwed neu ofid er mwyn atal niwsans; a hefyd

Gwahardd cŵn o gaeau/mannau chwarae wedi’u marcio

Bydd patrolau dyddiol rheolaidd o’r parciau yn cael eu cynnal i helpu i addysgu a chynghori trigolion am y cyfyngiadau newydd sydd wedi dod i rym.

Meddai Colin Wilks, Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Rhisga:

“Mae gan Glwb Rygbi Rhisga, am y rhesymau anghywir, hanes gydag effeithiau baw cŵn ar gaeau.

“Mae menter y Gorchymyn yn rhaglen gadarnhaol iawn, i addysgu perchnogion anifeiliaid anwes ac i sicrhau iechyd a diogelwch ein holl chwaraewyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Strydoedd:

“Rydyn ni’n falch iawn y bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus hwn, sy’n eithrio cŵn o feysydd chwaraeon wedi’u marcio, yn dod i rym ar 1 Mawrth.

“Mae ein meysydd chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn lles pobl leol ac mae ond yn iawn eu bod nhw’n cael eu mwynhau’n ddiogel. Yn anffodus, roedd llawer o sefyllfaoedd lle’r oedd yn rhaid i glybiau chwaraeon ac eraill lanhau baw cŵn cyn y gallen nhw ddechrau gêm.

“Rydyn ni’n falch o gael Bwrdeistref Sirol gydag ystod eang o fannau agored a gwyrdd y gall perchnogion cŵn cyfrifol eu mwynhau yn lle mynd â’u cŵn am dro ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio.”

%d bloggers like this: