03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Disgybl o Aberdâr Evie Barnett wedi ennill cystadleuaeth poster ‘Arhoswch Gartref’

MAE disgybl o Aberdâr wedi ennill cystadleuaeth llunio poster ‘Arhoswch Gartref’ Llywodraeth Cymru, gan guro cannoedd o gynigion eraill ledled Cymru wrth i ni frwydro i gadw pawb yn ddiogel a hyrwyddo’r neges hollbwysig mewn perthynas â COVID-19.

Cymerodd Evie Barnett, 9 oed, ran yn y gystadleuaeth ar ôl i’w hathrawes ddosbarth, Sharon Haughty, Ysgol Gynradd Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru, osod y dasg yn rhan o’i haddysg yn y cartref.

Meddai’r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Llongyfarchiadau i Evie ar chwifio’r faner ar ran ein Bwrdeistref Sirol a’n hysgolion trwy ennill cystadleuaeth mor fawreddog.

“Bydd miliynau o bobl ledled y wlad, a’r byd, yn gweld poster llwyddiannus Evie, wrth i Gymru barhau i hyrwyddo’i neges Arhoswch Gartref sy’n hollbwysig ar hyn o bryd.”

Fe wnaeth rhieni Evie, Rachael a Richard Barnett, sy’n weithwyr allweddol ddal COVID-19 yn ystod y pandemig byd-eang ac maen nhw wedi gwella’n llwyr.  Mae Rachael yn berchennog meithrinfa ac mae Richard yn gweithio fel gyrrwr sy’n dosbarthu nwyddau ar gyfer archfarchnad. Maen nhw mor falch o’r hyn y mae Evie wedi’i chyflawni, ar ôl iddi gael ei chyhoeddi fel enillydd y gystadleuaeth llunio poster gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dwedodd Rachael, mam Evie:

“Mae Evie wrth ei bodd yn cyflawni tasgau creadigol ac roedd hi wedi ymroi’n llwyr i’r dasg yma gan fod y neges Arhoswch Gartref yn golygu cymaint i’n teulu.

“Mae Evie yn aelod o Academi Ddawns Morgannwg felly mae hi wedi bod yn brysur gyda’i dosbarthiadau sy’n cael eu cynnal ar Zoom.  Mae hi hefyd yn gweld ei hathrawes a’i ffrindiau dosbarth ar Zoom ond mae hi wir yn colli gweld pawb wyneb yn wyneb, yn enwedig ei chwaer hŷn Sam a’i nith Alice.

“Er hyn mae Evie yn sylweddoli bod y neges Arhoswch Gartref mor bwysig i bawb os ydyn ni am aros yn ddiogel a churo’r firws er mwyn i ni gyd ddychwelyd i rywfaint o normalrwydd.”

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrth gyhoeddi’r enillwyr:

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein cystadleuaeth llunio poster Arhoswch Gartref.  Cawsom nifer enfawr o gynigion ac roedd gyda ni’r dasg anodd o ddewis yr enillwyr.

“Evie sydd wedi creu’r poster Saesneg buddugol. Mae ei phoster hyfryd o glir yn dangos yr holl elfennau ar y dudalen ac yn sicrhau bod y neges yn glir i bawb sy’n gweld y poster.

“Felly Evie, diolch yn fawr iawn am gymryd rhan.  Diolch hefyd, nid yn unig i’r enillwyr ond i bawb arall sydd wedi cymryd rhan, gan ein helpu ni i weithio gyda’n gilydd i gadw pawb yng Nghymru yn ddiogel.”

Medd Clare Werrett, Pennaeth Ysgol Gynradd Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru:

“Mae pawb yn ein hysgol a phawb sy’n gysylltiedig â’n hysgol wrth eu bodd ac yn falch bod Evie wedi ennill y gystadleuaeth llunio poster yma gan Lywodraeth Cymru.  Mae hi wedi tynnu sylw at y neges bwysig iawn o aros gartref ac aros yn ddiogel.”

Cyngor COVID-19 Llywodraeth Cymru

Enillodd Evie Barnett, o Ysgol Gynradd Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru, y gystadleuaeth llunio poster Saesneg.  Enillodd Abigail, o Ysgol Garnedd Bangor, y gystadleuaeth llunio poster Cymraeg.

%d bloggers like this: