04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Disgyblion a chymunedau yn dysgu am Masnach Deg

I DDATHLU Pythefnos Masnach Deg 2022 bydd ysgolion a chymunedau ar draws Sir Fynwy yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i helpu pobl ddysgu mwy am Masnach Deg a newid hinsawdd, dyfodol ein bwyd a’r rhai sy’n ei gynhyrchu.

Mae Pythefnos Masnach Deg, 21 Chwefror – 6 Mawrth 2022 yn rhan bwysig o ymateb Sir Fynwy i’r Argyfwng Hinsawdd, gan ei fod yn rhoi cyfle i unigolion, cymunedau a busnesau i sefyll gyda ffermwyr mewn gwledydd incwm isel y mae newid hinsawdd wedi effeithio arnynt. Drwy brynu cynnyrch Masnach Deg gallwn i gyd chwarae ein rhan yn sicrhau y gall ffermwyr fanteisio o brisiau tecach, arferion masnachu tecach a’r adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae nifer o ysgolion Sir Fynwy wedi ennill statws Ysgol Masnach Deg a bydd disgyblion o’r ysgolion hyn ynghyd â llawer eraill yn cynnal cyfarfodydd, gwaith dosbarth a gweithgareddau eraill i helpu plant i ddysgu mwy am y gwahaniaeth y gall Masnach Deg ei wneud i bobl. Enghraifft o hyn yw Jenipher Wetake, tyfwraig coffi o Uganda y mae tirlithriadau a achoswyd gan newid hinsawdd wedi taro ar ei hardal. Cyfarfu disgyblion Sir Fynwy â Jenipher mewn digwyddiad Ysgolion Masnach Deg yn Rhaglan yn union cyn i’r cyfnod clo ddechrau yn 2020.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Meddai’r Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol:

“Caiff effeithiau newid hinsawdd eu gweld ar draws y byd a hefyd yn nes gartref yma yn Sir Fynwy. Drwy feddwl am yr hyn a brynwn a phrynu eitemau gyda nod Masnach Deg, gall y ffermwyr sy’n tyfu ein te, coffi, coco, siwgr, bananas ac yn y blaen ddysgu technegau newydd i ofalu am yr amgylchedd a hefyd i’w helpu i addasu i newid hinsawdd a dod yn fwy cydnerth.”

Mae gwirfoddolwyr o bedwar grŵp Tref Masnach Deg Sir Fynwy hefyd yn trefnu digwyddiadau ac arddangosiadau i helpu cymunedau i ddysgu am y gwahaniaeth y gall prynu nwyddau Masnach Deg ei wneud, felly beth am gefnogi un o’r dyddiau hyn os gallwch:

Y Fenni: Bwrdd tu allan i Waitrose drwy’r dydd (10 tan 4) ddydd Sadwrn 26 Chwefror, gan godi ymwybyddiaeth o Masnach Deg. Cinio Pancos ddydd Mawrth Ynyd 1 Mawrth yn Neuadd Fethodistaidd y Fenni rhwng 11.00 a 1.30. Mae Eglwys Crist yn cynnal bore coffi thema ddydd Iau 3 Mawrth. Bydd dau arddangosiad Masnach Deg yn y dref, un yn Sgwâr coch (gyferbyn â Waterstones), y llall yn siop Oxfam yn Stryd Frogmore. Bydd cyfarfodydd gyda thema Masnach Deg mewn ysgolion lleol.

Cas-gwent: Cyfarfod Masnach Deg yn Ysgol Pembroke yn Bulwark, arddangosiadau ffenestr Masnach Deg dan Fwa’r Dref, yn Oxfam a Toyastic – a bydd baner Fairtrade yn cyhwfan dros fwa’r dref.

Trefynwy: bore coffi Masnach Deg ym Mhriordy Trefynwy ddydd Sadwrn 26 Chwefror, 10 a 12. Teisennau a bisgedi cartref a raffl gyda gwobrau Masnach Deg.

Brynbuga: Stondin Masnach Deg ym Marchnad Ffermwyr Brynbuga ddydd Sadwrn 5 Mawrth yng Nghanolfan Garddio Willows ym Mrynbuga.

Mae Masnach Deg yn ymroddedig i ymladd yr argyfwng hinsawdd. Mae safonau Masnach Deg yn annog cynhyrchwyr i ddiogelu’r amgylchedd drwy wella pridd, plannu coed, cadwraeth dŵr ac osgoi pla-laddwyr, tra bod rhaglenni Masnach Deg yn cynnwys academïau hinsawdd i ffermwyr rannu arfer gorau. Ar yr un pryd, mae Masnach Deg yn darparu hyfforddiant i gynhyrchwyr fel y gallant roi cynnig ar y dulliau amaethyddol diweddaraf, tebyg i ryng-gnydau a choffi a dyfir yn y cysgod i addasu i amodau.

%d bloggers like this: