04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Disgyblion a staff mewn ras rithwir i stadia’r Chwe Gwlad

MAE disgyblion a staff Yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bryntirion yn cystadlu yn erbyn tair ysgol arall yn Ne Cymru mewn ras rithwir i stadia’r Chwe Gwlad.

Mae Blynyddoedd 7 ac 8, yn ogystal â staff yr ysgol, yn cystadlu yn erbyn eu cyfoedion yn Ysgolion Cyfun Trefynwy, Cas-gwent a Chwm Tawe yn y ras i gystadleuaeth y Stadia a ysbrydolwyd gan y twrnamaint rygbi blynyddol.

Mae’r bobl ifanc yn clocio cilomedrau drwy redeg, cerdded, beicio, rhwyfo, a hyd yn oed sglefrfyrddio ac ar sgwter, gyda’r nod o gwmpasu’r pellter rhwng Stadiwm y Principality a’r pum lleoliad arall erbyn dechrau gwyliau hanner tymor mis Chwefror, dydd Gwener 12 Chwefror.

Hyd yn hyn ym Mryntirion, mae 45 o ddisgyblion Blwyddyn 7, 35 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 60 aelod o staff wedi cymryd rhan ac o ddydd Llun 8 Chwefror, roedd disgyblion Blwyddyn 7 yn arwain eu cynghrair gyda 594km, tra bod Blwyddyn 8 yn bedwerydd gyda 392km a staff yn drydydd gyda 1,536km, gan wneud cyfanswm o 2,522km rhwng pawb.

Ar draws yr ysgol, mae’r pellter a deithiwyd yn golygu eu bod bron wedi teithio i Stadiwm Aviva yn Nulyn, Murrayfield yng Nghaeredin, Twickenham yn Llundain a’r Stade de France ym Mharis, gyda Stadio Olanaico yn Rhufain yr unig ar ôl i gyrraedd, 978km arall i ffwrdd.

Yn CCYD, mae tua 50 aelod o staff, 90 disgybl Blwyddyn 7 a 75 o Flwyddyn 8 yn cymryd rhan yn yr her. Mae disgyblion Blwyddyn 7 yn drydydd gyda 504km, mae Blwyddyn 8 hefyd yn drydydd yn eu cynghrair gyda 409km ac mae staff yn bumed gyda 1,109km – cyfanswm o 2,022km sy’n golygu eu bod hefyd wedi cyrraedd y Stade de France.

Dywedodd Chris Dicomidis, swyddog hwb CCYD:

“Mae llawer o’r disgyblion fel arfer yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ar gyfer timau ysgol a’r tu allan i’r ysgol, felly maent yn colli’r elfen gymdeithasol a chystadleuol honno ar hyn o bryd.

“Rydym yn cael data pawb o’u apiau ffitrwydd ac mae wedi creu cyffro mawr ymysg disgyblion a staff hefyd. Mae’n rhywbeth y gall disgyblion ei wneud yn ddiogel o’u cartrefi a gall teuluoedd gymryd rhan hefyd.

“Rwy’n gwybod ei fod yn fy ysgogi i fynd allan a gwneud ymdrech, a gallaf weld y gwahaniaeth mae mynd allan a bod yn heini yn ei gael ar fy mhlant fy hun, sy’n eistedd gartref drwy’r dydd. Mae’n hanfodol i ni i gyd gadw’n heini ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol.”

Medd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

“Da iawn i’r disgyblion a’r staff ym Mryntirion a CCYD am eu hymdrechion rhagorol yn y gystadleuaeth hon hyd yn hyn.

“Mae ymarfer corff yr un mor bwysig ar gyfer iechyd meddwl ag y mae ar gyfer iechyd corfforol felly mae Ras i’r Stadia yn fenter wych i annog disgyblion i gadw’n heini yn ystod y cyfnod clo.

“Efallai y bydd disgyblion yn gweld eisiau cymryd rhan mewn hyfforddiant chwaraeon neu’n gallu cefnogi Cymru yn bersonol yng ngemau’r Chwe Gwlad.

“Mae’r gystadleuaeth gyfeillgar hon yn ysgogiad gwych iddynt gymryd seibiant o’u sgriniau a bod yn heini ac yn egnïol yn ddiogel o fewn y canllawiau presennol, wrth gysylltu â phobl ifanc ac ysgolion eraill mewn nod cyffredin. Pob lwc Bryntirion a CCYD!”

%d bloggers like this: