04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Disgyblion ieuengaf Abertawe i ddychwelyd i’r ysgol

MAE rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i chwarae eu rhan er mwyn helpu plant ieuengaf Abertawe i ddychwelyd i’r ysgol mor ddi-drafferth â phosib.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y dylai disgyblion Cyfnod Sylfaen (3 i 7 oed) ddechrau dychwelyd i’r dosbarth yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 22 Chwefror.

Yn Abertawe, bydd ysgolion yn defnyddio’r dydd Llun a’r dydd Mawrth fel diwrnodau cynllunio, gyda rhai disgyblion yn dychwelyd o’r dydd Mercher a phob grŵp blwyddyn Cyfnod Sylfaen yn dechrau dychwelyd erbyn dydd Gwener 26 Chwefror.

Bydd pob ysgol yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol gyda’r trefniadau sy’n berthnasol iddynt.

Bydd disgyblion hŷn ysgolion cynradd ac uwchradd yn parhau i ddysgu gartref.

Mae Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Helen Morgan-Rees, wedi ysgrifennu at yr holl rieni a gofalwyr yr wythnos hon i ofyn am eu cefnogaeth.

Yn ystod tymor yr hydref bu’n rhaid i rai dosbarthiadau hunanynysu oherwydd bod disgybl neu aelod o staff wedi profi’n bositif am Coronafeirws.

Dywedodd Mrs Morgan-Rees y byddai mesurau ar waith unwaith eto i leihau unrhyw risg y tu mewn i ysgolion er mwyn cadw disgyblion a staff yn ddiogel.

Dywedodd ei bod yr un mor bwysig bod teuluoedd yn parhau i ddilyn y cyfyngiadau symud y tu allan i’r ysgol er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosib.

Roedd hyn yn cynnwys peidio â chymysgu y tu allan i’r ysgol, peidio â chynnal partïon na phartïon cysgu ar ôl ysgol neu ar benwythnosau a rhaid i oedolion ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol wrth ollwng neu gasglu eu plant.

Meddai Mrs Morgan-Rees:

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i rieni a disgyblion fel ei gilydd sydd wedi dilyn y rheolau a’r rheoliadau cyhoeddus ac ysgolion ar gyfer cadw’n ddiogel.

“Mae ymdrechion pawb wedi talu ar ei ganfed ac mae trosglwyddiad cymunedol COVID-19 yn amlwg yn gostwng.

“Hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau fel y gallwn ganolbwyntio ar addysgu ein plant 3 i 7 oed.

“Helpwch ni trwy gadw pellter cymdeithasol, meddwl ddwywaith cyn rhannu lifftiau i’r ysgol, cynnal partïon, rhannu gofal plant, cymysgu ar y ffordd i’r ysgol, pan fyddwch ar safle’r ysgol neu wedi hynny.

“Rhaid i bob rhiant ac ymwelydd â safleoedd ysgol wisgo gorchudd wyneb. Dylai rhieni hefyd osgoi ymgynnull wrth gât yr ysgol a dylent gyrraedd mor agos â phosib at eu hamser gollwng neu gasglu cytunedig.

“Gofynnwn i chi ymddwyn yn gyfrifol oherwydd gallai peidio â gwneud hynny amharu ar ddychwelyd i’r ysgol am weddill tymor y gwanwyn.”

Yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl, bydd angen i blant fynd â chinio pecyn gan na fydd ceginau ysgol yn agor tan ddydd Llun 1 Mawrth.

Yn ystod y cam dychwelyd cychwynnol, ni fydd ysgolion yn gweini brecwast na’n cynnal clybiau ar ôl ysgol neu unrhyw weithgareddau eraill sy’n caniatáu i swigod gymysgu.

Bydd ysgolion cynradd yn parhau i ddarparu gofal hanfodol i ddisgyblion hŷn ond atgoffir rhieni y dylid defnyddio’r gwasanaeth hwn pan fydd holl opsiynau eraill wedi’u hystyried yn unig.

Bydd athrawon yn parhau i ddarparu dysgu gartref ar gyfer Blynyddoedd 3 i 6.

Meddai Mrs Morgan-Rees:

“Mae ein penaethiaid yn awyddus iawn i weld disgyblion yn dychwelyd i fyd addysg yn ddiogel.

“Mae wedi bod yn gyfnod heriol gan fod ysgolion wedi gorfod ymdrin â dysgu ar y safle ac oddi ar y safle.

“Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi gwneud eu gorau i addasu i ffyrdd gwahanol o weithio a sicrhau bod dysgu’n parhau.

“Nid yw hyn wedi bod yn hawdd i unrhyw un ond mae ysgolion ac athrawon, unwaith eto, wedi ymateb i’r her gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.”

 

%d bloggers like this: