03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE rhai o ddisgyblion ieuengaf Abertawe yn dychwelyd i’r ysgol heddiw  (Chwefror 24), ac anogir rhieni a gofalwyr i chwarae eu rhan wrth helpu i gefnogi’r broses.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen (3 i 7 oed) yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon.

Bydd pob ysgol wedi cysylltu â rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol gyda’r trefniadau sy’n berthnasol iddynt.

Bydd disgyblion cynradd hŷn a disgyblion ysgolion uwchradd yn parhau i ddysgu gartref am nawr, a chysylltir â’u teuluoedd yn uniongyrchol cyn i unrhyw newid ddigwydd.

Fel sydd wedi bod yn wir drwy gydol y cyfnod clo, bydd ysgolion yn aros ar agor i blant gweithwyr hanfodol, ond mae’r ddarpariaeth hon yn gyfyngedig ac nid oes modd ei gwarantu, felly dim ond pan fydd yr holl opsiynau eraill wedi’u hystyried y dylid ei defnyddio.

Mae Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Helen Morgan-Rees, wedi ysgrifennu at yr holl rieni a gofalwyr yr wythnos hon i ofyn am eu cefnogaeth.

Meddai Mrs Morgan-Rees:

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i rieni a disgyblion fel ei gilydd sydd wedi dilyn y rheolau a’r rheoliadau cyhoeddus ac ysgolion ar gyfer cadw’n ddiogel.

“Mae ymdrechion pawb wedi talu ar ei ganfed ac mae trosglwyddiad cymunedol COVID-19 yn amlwg yn gostwng.

“Hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau fel y gallwn ganolbwyntio ar addysgu ein plant 3 i 7 oed.

“Helpwch ni trwy gadw pellter cymdeithasol, meddwl ddwywaith cyn rhannu lifftiau i’r ysgol, cynnal partïon, rhannu gofal plant, cymysgu ar y ffordd i’r ysgol, pan fyddwch ar safle’r ysgol neu wedi hynny.

“Rhaid i bob rhiant ac ymwelydd â safleoedd ysgol wisgo gorchudd wyneb. Dylai rhieni hefyd osgoi ymgynnull wrth gât yr ysgol a dylent gyrraedd mor agos â phosib at eu hamser gollwng neu gasglu cytunedig.

“Gofynnwn i chi ymddwyn yn gyfrifol oherwydd gallai peidio â gwneud hynny amharu ar ddychwelyd i’r ysgol am weddill tymor y gwanwyn.”

%d bloggers like this: