03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Disgyblion yn holi’r Prif Weinidog am ei gynlluniau ar gyfer y Nadolig

MEWN cynhadledd arbennig i’r wasg ar gyfer y Nadolig, cafodd disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru gyfle i holi’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau anodd yn ystod y sesiwn ar-lein, gan gynnwys, “Sut beth yw bod yn Brif Weinidog?” “Ai dyma’r swydd orau yng Nghymru?” “A beth yw traddodiadau Nadolig eich teulu?”

Datgelodd Mark Drakeford mai’r anrheg Nadolig orau a gafodd erioed oedd record finyl y mae’n dal i wrando arni, tua 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd hefyd wrth y plant ysgol ei fod yn gobeithio ei fod ar restr plant da Siôn Corn, gan eu hatgoffa mai’r ffordd orau o aros ar ochr iawn Siôn Corn oedd “cadw at y rheolau”.

Pan ofynnwyd iddo ai ei swydd ef oedd yr un orau yng Nghymru, atebodd y Prif Weinidog: “Mae darnau o’r swydd sy’n well na swydd unrhyw un arall, ac mae’n siŵr bod rhai darnau yn anoddach.

“Mae’n swydd dwi’n lwcus iawn i’w chael.”

Cymerodd disgyblion o bedair ysgol gynradd ran yn y gynhadledd i’r wasg ar-lein – Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ac Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd.

Dywedodd Meilir Thomas, Pennaeth Ysgol Glan Morfa,

“Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad o gymryd rhan yn y sesiwn. Roedden nhw’n meddwl ei bod hi’n anrhydedd cael y Prif Weinidog yn ateb eu cwestiynau.”

%d bloggers like this: