04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diweddaraf ar gyllid Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenny

MAE Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar ddod â safle diffaith ym Maesteg yn ôl i ddefnydd.

Mae safle Budelpack COSi a Cooper Standard gynt ar Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenny wedi bod yn wag ers dros ddegawd, er gwaethaf sawl ymdrech i’w adnewyddu. Y cynllun tymor hir yw galluogi datblygiad aml-ddefnydd ar y safle, gan gynnwys tai, darpariaeth manwerthu, unedau menter a chyfleuster parcio a theithio rheilffordd.

Nid yw’r safle 20 erw yn ddichonadwy oherwydd y cyllid sylweddol fyddai ei angen er mwyn paratoi’r safle ar gyfer ei ddatblygu. Mae angen gwaith seilwaith sylweddol, er enghraifft, i ddargyfeirio draen mwyngloddio hanesyddol ac ôl-lenwi llawer o dyllau pyllau glo.

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 18 Mai, cymeradwyodd y Cabinet waith i fwrw ymlaen â chais grant ar gyfer cyllid gwerth £3.5m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ar gyfer gwaith seilwaith ac adfer angenrheidiol.

Mae’r cais wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer cyllid, yn amodol ar ystyriaeth bellach a diwydrwydd dyladwy gan CCR, ac mae disgwyl i’r rhestr fer gael ei chadarnhau fis Mehefin.

Mae’r uwchgynllun wedi cael ei ddiwygio ar y cyd â chydberchnogion y safle Pontardawe Coal & Metals Company Limited i gynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau cyllid.

Dyma’r newidiadau allweddol:

Cynyddu’r aneddiadau preswyl o 138 i 186;

Darparu 15% o dai fforddiadwy ar y safle o’i gymharu â’r cyfraniadau oddi ar y safle a gynigwyd yn flaenorol;

Darparu cyfnewidfa drafnidiaeth, gan gynnwys gorsaf fysus a chyfleuster parcio a theithio ar ochr orllewinol bellaf y safle oherwydd ei agosrwydd at orsaf drenau Ffordd Ewenny;

Adleoli ac ad-drefnu’r hwb menter i fod ochr yn ochr â’r gyfnewidfa drafnidiaeth arfaethedig; a hefyd

Gwaredu’r unedau manwerthu ar raddfa fawr oherwydd eu heffaith bosibl ar ganol tref Maesteg a’u disodli gyda darpariaeth fanwerthu lleol ar raddfa fach

Meddai Cynhorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adnewyddu:

Os byddwn yn gallu sicrhau’r cyllid, bydd yn galluogi’r safle, sydd wedi bod yn wag ers degawd, i gael ei baratoi ar gyfer ei ddatblygu.

Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu gyda CCR ar gam diwydrwydd dyladwy’r cais grant a bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau caniatâd cynllunio diwygiedig. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y gwaith adfer angenrheidiol yn cael ei wneud, a’r safle’n cael ei farchnata.

Bydd unrhyw elw fydd yn deillio o werthu’r tir yn cael ei ail-fuddsoddi yng Nghwm Llynfi, gyda chyfleusterau’n cynnwys cyfleuster parcio a theithio a hwb menter.

 

%d bloggers like this: