04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diweddariad ar dreialu trefniadau pleidleisio hyblyg gyfer etholiadau lleol Mai

MAE Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar dreialu trefniadau pledleisio hyblyg:

” Ar 9 Tachwedd 2021, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau enwau’r pedwar awdurdod lleol sydd wedi mynegi diddordeb mewn treialu trefniadau pleidleisio hyblyg fel rhan o’r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

Diben y cynlluniau peilot yw gweld a allwn ni ei gwneud hi’n haws i bobl bleidleisio drwy gynnig hyblygrwydd o ran pryd a lle y gallant bleidleisio. Bydd y trefniadau hyn yn dod â’r blwch pleidleisio yn nes at fywydau bob dydd y bobl. Mae hyn yn dod â ni gam yn nes at sicrhau bod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch â phosibl ac y gall pawb sydd eisiau pleidleisio wneud hynny. Bydd yr hyn a fydd yn cael ei ddysgu o’r cynlluniau peilot yn cael ei ddefnyddio i lywio gwelliannau hirdymor i’r ffordd y bydd pobl yn pleidleisio ac yn helpu i leihau’r diffyg democrataidd.

Mae’n bleser gennyf roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd o ran datblygu’r cynlluniau peilot hyn a fydd yn profi gwahanol fathau o drefniadau pleidleisio ymlaen llaw.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Cynhelir cynlluniau peilot mewn pedair ardal:

Blaenau Gwent – bydd Parth Dysgu Glynebwy a leolir yn ganolog yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw i holl breswylwyr y sir, gan gynnwys myfyrwyr y coleg sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau. Bydd trefniadau pleidleisio ymlaen llaw ar gael ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher cyn diwrnod yr etholiad.

Pen-y-bont ar Ogwr – bydd gorsafoedd pleidleisio mewn rhai wardiau lle mae canran isel o bobl yn bwrw eu pleidlais ar agor ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher cyn diwrnod yr etholiad. Bydd gorsaf bleidleisio newydd yn cael ei chreu hefyd mewn ysgol ar y dydd Mawrth cyn diwrnod yr etholiad i’w defnyddio gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn yr ysgol honno ac sy’n gymwys i bleidleisio mewn wardiau penodol.

Caerffili – bydd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach yn cael eu defnyddio fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw i holl breswylwyr y sir dros y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad.

Torfaen – bydd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl yn cael eu defnyddio fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw i holl breswylwyr y sir dros y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad.

Datblygwyd y pedwar cynllun peilot drwy gydweithio’n agos â’r pedwar awdurdod lleol, y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru a’r gymuned etholiadol ehangach.

Yn unol ag adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, rydym hefyd wedi ymgynghori’n ffurfiol â’r Comisiwn Etholiadol ar wneud gorchmynion i roi’r cynlluniau peilot arfaethedig ar waith, ac maent yn cefnogi gwneud y gorchmynion hyn. Felly mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gwneud pedwar gorchymyn i weithredu’r cynlluniau a amlinellwyd uchod, a ddaw i rym ar 23 Mawrth 2022. Gellir gweld y gorchmynion hyn yn:

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cynllun Peilot Etholiadol) 2022 | LLYW.CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Cynllun Peilot Etholiadol) 2022 | LLYW.CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Cynllun Peilot Etholiadol) 2022 | LLYW.CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Cynllun Peilot Etholiadol) 2022 | LLYW.CYMRU

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol a’r gymuned etholiadol yn y cyfnod hyd etholiadau mis Mai 2022 a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynglŷn â chynnydd.”

 

%d bloggers like this: