04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Portraits of Welsh Government Ministers and Deputy Ministers, 19 November 2019

Diweddariad ar strategaeth brechu rhag Brech y Mwncïod

MAE Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’r strategaeth fyrd yn camel ei ganlyn byng Nghymru i frechu rhag Brech y Mwncïod.

Meddai y Gweinidog:

“Oherwydd y cyfyngiadau byd-eang ar gyflenwadau’r brechlyn rhag brech y mwncïod, ac yn sgil y cyngor a roddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, dyma ni’n cyhoeddi ein bod yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n darparu dosau ffracsiynol wrth frechu’r rheini sydd yn y perygl mwyaf o ddal brech y mwncïod. Bydd y drefn hon, a fydd yn cael ei gweithredu fel cynllun peilot i ddechrau, yn cychwyn cyn hir, ac rydym yn disgwyl y bydd unigolion cymwys yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu brechu yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae darparu’r brechlyn mewn dosau ffracsiynol yn ddull gweithredu diogel sydd wedi ei gymeradwyo’n glinigol, ac sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn ymatebion eraill i achosion ar draws y byd pan fo cyflenwadau o’r brechlyn yn gyfyngedig. Drwy weithredu fel hyn gellir sicrhau bod y nifer mwyaf o ddosau yn cael eu rhoi heb leihau lefel yr amddiffyniad, ac mae canlyniadau astudiaethau clinigol yn dangos ei fod yn darparu ymateb imiwnedd sydd bron yn union yr un fath mewn cleifion.

Mae’r defnydd o ddosau ffracsiynol wedi cael ei awdurdodi’n ddiweddar gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yn yr Unol Daleithiau ar gyfer ymateb y wlad i frech y mwncïod. Mae Tasglu Argyfwng yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd hefyd wedi cymeradwyo’r dull gweithredu hwn.

Bydd y newid yn y dull o ddarparu dos yn golygu y bydd pawb 18 oed a hŷn sy’n gymwys i gael brechiad cyn-gysylltiad yn cael cynnig dos 0.1ml o’r brechlyn Jynneos, yn lle’r dos 0.5ml a ddefnyddir fel arfer pan na fo cyflenwadau’n gyfyngedig. Bydd hyn yn golygu bod modd cynnig brechu hyd at bum gwaith yn rhagor o bobl, gan arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y bobl gymwys a fydd yn gallu cael mynediad at y brechlyn yng Nghymru ac ar draws y DU. Bydd hyn yn cefnogi ein hymdrechion i dorri’r gadwyn drosglwyddo.

Yn ogystal ag adolygiad o’r dystiolaeth sydd ar gael gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, mae’r newid yn y dull gweithredu wedi cael ei ystyried a’i gymeradwyo gan arbenigwyr clinigol yma yng Nghymru, ac mae’r paratoadau bellach yn mynd rhagddynt o fewn GIG Cymru i ddechrau’r peilot.

O dan y dull gweithredu diwygiedig hwn, bydd y brechlyn yn cael ei weinyddu gan dechneg brechu tan haen uchaf y croen. Mae brechiad o’r fath yn bigiad a roddir i mewn i haen uchaf y croen yn hytrach na’r dull mwy cyffredin o chwistrellu naill ai islaw’r croen (isgroenol) neu i mewn i’r cyhyr ar dop y fraich (mewngyhyrol). Gallai gymryd rai eiliadau’n hirach, a dylai gynhyrchu “bleb” (pothell fach) a fydd yn diflannu ymhen munud. Bydd y dull hwn yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profi’r croen a brechu rhag twbercwlosis.

Mae treialon clinigol yn dangos bod yr amddiffyniad a gynigir drwy frechu i mewn i haen uchaf y croen yn gyfwerth â dulliau eraill o weinyddu brechlyn, a bod y brechlyn yn cymryd yr un amser (oddeutu 10 diwrnod) i gynhyrchu ymateb imiwnedd sy’n gallu diogelu’r unigolyn.

Mae’r rheini sy’n gymwys i gael brechiad cyn-gysylltiol yn cynnwys:

Gweithwyr gofal iechyd sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd rhywiol ac unedau clefydau heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol;

Dynion hoyw a deurywiol, yn benodol y rheini sy’n derbyn proffylacsis cyn-gysylltiad neu sydd wedi dal haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ddiweddar.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd wedi argymell y dylid blaenoriaethu cynigion brechu ôl-gysylltiad pan fo cyflenwadau’n gyfyngedig. Bydd brechu ôl-gysylltiad ar gyfer y rheini sydd wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer pobl sydd â’r risg fwyaf o ddioddef salwch difrifol, gan gynnwys plant dan bump oed, menywod beichiog, a phobl imiwnoataliedig difrifol. Yn ogystal â hyn, gallai pobl sy’n gymwys i gael brechiad cyn-gysylltiol, er enghraifft dynion hoyw a deurywiol risg uchel, gael cynnig brechiad ôl-gysyllltiad.

Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechlyn i fanteisio ar y cynnig pan fyddant yn cael eu gwahoddiad.

Dylem i gyd fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau brech y mwncïod, gan fod yn ofalus os byddwn mewn digwyddiadau a sefyllfaoedd lle gallai cysylltiadau agos ddigwydd. Dylai pobl sy’n pryderu am symptomau gysylltu â GIG 111 neu wasanaeth iechyd rhywiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.”

%d bloggers like this: