04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Portraits of Welsh Government Ministers and Deputy Ministers, 19 November 2019

Diweddariad i ganllawiau ynghylch ymweliadau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol mewn ysbytai

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Atodiad 2 diwygiedig ynghylch ymweliadau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae’r atodiad hwn yn rhan o Ganllawiau Ymweld ag Ysbytai GIG Cymru a fydd yn dod i rym ar 9 Mai 2022. Mae’r rhain yn disodli’r Canllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 21 Mehefin 2021.

Mae iechyd, diogelwch a lles menywod beichiog, pobl sy’n geni a’u babanod, a staff mewn unedau mamolaeth, unedau newyddenedigol ac yn y gymuned yn hollbwysig ac yn flaenoriaeth lwyr inni o hyd. Disgwyliaf i’r holl geisiadau sy’n ymwneud ag ymweld â lleoliadau gofal iechyd gael eu trin â thrugaredd ac empathi gan sicrhau bod budd pennaf cleifion yn cael eu diwallu, a bod prosesau asesu risg lleol yn cael eu gweithredu.

Mae’r canllawiau yn parhau i gategoreiddio partner a enwebwyd sy’n cefnogi menyw yn ystod ymweliadau i’r ysbyty yn ymwelydd hanfodol. Yn yr un modd, mae rhieni neu brif roddwyr gofal yn bartneriaid mewn gofal newyddenedigol, ac felly, ni ddylid eu hystyried yn ymwelwyr i unedau newyddenedigol. Dylid ystyried y rhain hefyd yn hanfodol i iechyd a lles eu babanod.

Mae’r canllawiau’n nodi’r egwyddorion allweddol y disgwyliwn iddynt gael eu gweithredu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod menywod beichiog a babanod yn cael tegwch o ran profiad ble bynnag y maent yn cael eu gofal.

Nid oes newidiadau eraill i’r prif ganllawiau ymweld ag ysbytai nac i’r datganiad atodol cysylltiedig.

%d bloggers like this: