04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diwrnod agored rhithiol sy’n agor y drws ar safle tai gofal ychwanegol Y Bala

“Mae Awel y Coleg yn opsiwn perffaith i bobl hŷn sydd am gynnal eu hannibyniaeth,” meddai uwch swyddog pobl hŷn cymdeithas dai.

Mae Siân Ellis yn gweithio yn Grŵp Cynefin, sy’n cynnal diwrnod agored rhithiol am Awel y Coleg, un o’i pum cynllun tai gofal ychwanegol, ddydd Mercher 21 Gorffennaf.

Ar ôl rhewi ceisiadau dros dro yn ystod Covid-19, mae Grŵp Cynefin wedi dechrau croesawu tenantiaid newydd i’r safle yn Y Bala ac yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i’r digwyddiad ar-lein.

Yn ôl Siân: “Mae unigolion a chyplau wedi bod yn symud i Awel y Coleg dros y misoedd diwethaf. Mae’r cyfle i fyw yn eu fflatiau eu hunain ond gyda chefnogaeth wrth law a chwmni pobl o oedran tebyg sydd â diddordebau cysylltiedig wedi bod yn ffactor allweddol.

“Yn ogystal â phobl sydd wedi byw yn Y Bala neu’r pentrefi cyfagos, mae tenantiaid wedi symud yma o bob rhan o Wynedd.
“Mae yna gymuned gartrefol yma ac mae pobl yn falch o fod yn rhan ohoni.


“Mae tueddiad i bobl feddwl fod angen iddynt aros nes eu bod yn sâl neu neu yn llawer hŷn cyn cymryd y cam o symud o’u cartref eu hunain, a hynny’n aml i mewn i gartref gofal.

“Y gwir ydi, mae cyfleuster tai gofal ychwanegol fel Awel y Coleg yn garreg gamu ddelfrydol: rydych chi’n cynnal eich annibyniaeth wrth gael cefnogaeth fel fo angen ac yn poeni llai am dasgau fel garddio trwm neu gynnal a chadw cartref.

“Yn ogystal, mae cyfle i denantiaid ymuno mewn gweithgareddau amrywiol a rheolaidd er mwyn medru cymdeithasu a chadw’n egnïol, os y dymunir.”

Cynhelir diwrnod agored rhithiol Awel y Coleg ddydd Mercher, 21 o Orffennaf am 11 y bore, a bydd yn para tan tua hanner dydd, gyda fideo byr am y cynllun ynghyd â chyfle i ofyn cwestiynau.

Bydd yn cael ei gynnal trwy feddalwedd Zoom, ond os nad ydy hyn yn bosibl i chi, cysylltwch ậ Grŵp Cynefin yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth.


I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad, e-bostiwch post@grwpcynefin.org.

Ychwanegodd Siân: “Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobl i’r digwyddiad yma. Mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb i weld y lleoliad yn bersonol hefyd yn bosibl trwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw, a dylid gwneud ceisiadau drwy’r un cyfeiriad e-bost.”

%d bloggers like this: