04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diwrnod Cofio’r Holocost Cymru 2022

TRA fydd popb awdurdod lleol ac eraill traws Cymru yn cynnal gweithgareddau i gofio’r holocost i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost Cymru 2022, bydd recordiad o Goffâd Cymru eleni ar gael i’w wylio ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Wedi’i ffilmio yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, gellir gweld y Coffâd Aml-Ffydd o 11am Ddydd Iau 27 Ionawr, gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:https://youtu.be/SB7W8xZIMiE(yn fyw am 11am ar y 27ain).

Cynhelir y Coffâd gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd, a hynny dan arweiniad y Prif Weinidog Mark Drakeford, a’r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.

Gall gwylwyr ddilyn y seremoni drwy lawrlwytho rhaglen Diwrnod Cofio’r Holocost Cymru 2022 yma:https://app.prmax.co.uk/collateral/188890.pdf

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae’r diwrnod yn anrhydeddu’r goroeswyr ac yn cofio’r rheiny a fu farw. Fe’i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, sef dyddiad rhyddhau carchar Auschwitz.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 yn rhoi cyfle i ni oll ddod at ein gilydd mewn eiliad o fyfyrio a choffáu cenedlaethol, gan anrhydeddu’r dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost a’r holl hil-laddiadau a gyflawnwyd ers hynny.

“Yr un mor bwysig, mae’n rhoi llwyfan i ni sefyll yn unedig yn erbyn pob math o erledigaeth, casineb a gormes, sy’n dal i fodoli heddiw yn anffodus.”

Meddai y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich:

“Mae’r cyfrifoldeb arnom ni a phob cenhedlaeth newydd i wneud yn siŵr bod y cof ar y cyd sydd o’r Holocost, a hil-laddiadau ers hynny, yn parhau.

“Gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, yn anffodus, rydym yn colli mwy o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan erchyllterau’r gorffennol. Ni ddylid fyth anghofio gwersi hanes; rhaid iddynt barhau i oleuo’r ffordd i bob un ohonom, wrth i ni wrthsefyll a chondemnio pob math o wahaniaethu a thrais.”

Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser i fyfyrio ar wersi poenus o’r gorffennol.

“Mae gennym ddyled fawr i oroeswyr yr Holocost – a phob hil-laddiad – sy’n treulio oriau lawer yn rhannu eu hanes yn ein cymunedau. Mae eu straeon yn rhoi rhybudd clir o beryglon agweddau atgas a chynhennus a’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd pobl a chymunedau’n cael eu targedu a’u difro, dim ond oherwydd pwy ydyn nhw.

“Dyna pam mae gennym weledigaeth am Gymru lle mae pawb yn cael eu parchu ac mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu. Rydym am atal casineb a rhoi croeso cynnes i bawb. Does gan Gasineb Ddim Cartref yng Nghymru.”

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i dalu eu parch drwy oleuo cannwyll yn eu ffenestri am 8pm Ddydd Iau 27 Ionawr, lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Gall negeseuon coffa a rennir ar y cyfryngau cymdeithasol dagio @HMD_UK, gan ddefnyddio #DowrnodCofiorHolocost a #GoleuorTywyllwch.

Bydd adeiladau a thirnodau yn cael eu goleuo’n borffor nos Iau 27 Ionawr, 2022. Mae adeiladau a thirnodau Caerdydd sy’n cymryd rhan yn cynnwys Neuadd y Ddinas Caerdydd, Chastell Caerdydd, Mae’r Senedd, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, a Canolfan Mileniwm Cymru.

Cynhelir Seremoni Goffa’r Deyrnas Gyfunol ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost gan yr Ymddiriedolaeth am 7pm ar 27 Ionawr 2021. Mae rhagor o fanylion, a chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru i wylio’r seremoni, ar gael ynwww.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/ukhmd/

%d bloggers like this: