03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

HEDDIW mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymuno ag eraill drwy nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Mae 27 Ionawr yn nodi 76 mlynedd ers rhyddhau gwersyll Auschwitz-Birkenau, gwersyll difa mwyaf y Natsïaid.

Thema’r diwrnod coffa Cenedlaethol eleni yw ‘Bod yn olau yn y tywyllwch’, a bydd y cyngor yn ymuno ag eraill i nodi’r diwrnod drwy oleuo Neuadd y Sir yn borffor heno, ac annog pobl i gynnau cannwyll a’i gosod yn y ffenestr am 8 pm i gofio ac i sefyll yn erbyn rhagfarn.

”Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Eva Clarke BEM, goroeswr yr Holocost, sydd unwaith eto’n cymryd yr amser i siarad â staff yn ein hadran addysg i ddatblygu gwell dealltwriaeth a’n helpu i weithio gyda phlant drwy ein hysgolion i sylweddoli pa mor beryglus yw casineb a chulfarn, ynghyd â hiliaeth a rhagfarn.”

 

%d bloggers like this: