04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diwrnod Gwaith Maes 2019 C.Ff.I Sir Gaerfyrddin

Bu cystadlu brwd trwy gydol y dydd yn Niwrnod Gwaith Maes y Sir a gynhaliwyd ym Maes y Sioe, Nantyci ar Ddydd Sadwrn 6fed o Ebrill 2019.

Anwen Jones, C.Ff.I Llanllwni enillodd teitl Stocmon Hŷn y Flwyddyn gyda Caryl Howells, C.Ff.I Llangadog yn ail, Ifan Williams, C.Ff.I Llangadog yn drydydd ac Elgan Thomas, C.Ff.I Llanelli yn bedwerydd. Yn Stocmon Iau y Flwyddyn, Rosie Davies, C.Ff.I Llannon daeth i’r brig yn y gystadleuaeth gyda Ryan Lee, C.Ff.I Whitland yn ail, Tomos Griffiths, C.Ff.I San Ishmael yn drydydd a Lewis Gibbin, C.Ff.I San Cler yn bedwerydd. Bydd yr wyth yn mynd ymlaen i gynrychioli Sir Gâr ar lefel Cymru a phob lwc iddynt.

Bechgyn C.Ff.I San Ishmael; Harri Millin, Callum Brown a Rhydian Walters gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Codi Ffens Adran Hŷn gyda C.Ff.I Llanddarog yn cipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Codi Ffens Iau. Da iawn i Gethin Davies, Harri Ward a Dafydd Edwards a phob lwc i’r ddau dim ar lefel Cymru.

Aelodau o C.Ff.I Llanllwni enillodd y gystadleuaeth Sgiliau Diogelwch Fferm. Da iawn i Aled Jones, Carwyn Lewis, Betsan Jones ac Alwyn Evans. Llongyfarchiadau hefyd i Rhiannon Jones a William Davies o C.Ff.I Dyffryn Tywi a enillodd y gystadleuaeth Fferm Ffactor Iau. Frazer Wyatt, C.Ff.I San Cler enillodd y gystadleuaeth Arwerthu. Yn y gystadleuaeth Arddangosfa Ciwb, C.Ff.I Dyffryn Tywi ddaeth i’r brig. Pob lwc i’r aelodau yma wrth iddynt gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru.

Yn y gystadleuaeth Saethu Clai, Alwyn Evans, C.Ff.I Llanllwni ddaeth i’r brig yn yr adran Dan 17, Martha Sauro, C.Ff.I Llanelli ddaeth yn gyntaf yn yr adran Dan 26 i Ferched a Rhys Meirion Evans, C.Ff.I San Cler cipiodd y wobr gyntaf yn yr adran Dan 26 i Fechgyn. Fydd yr aelodau yma yn cynrychioli Sir Gâr ar lefel Genedlaethol a phob lwc iddynt.

Diolch i bawb wnaeth helpu gyda’r stiwardio ac hefyd i’r unigolion wnaeth rhoi benthyg eu “Horseboxes” i ni. Mae’n rhaid diolch i Aeron a Carys Owens, William Griffiths, Dewi Thomas, Eifion Jones a Lloyd Howells am gael defnyddio ei stoc i’r Stocmon hefyd. Diolch hefyd i Brodyr Evans, Dalton’s ATVs, Aled Thomas ac i Rhodri Lloyd am gael defnyddio eu peiriannau a threlars i’r Diogelwch Fferm a diolch i’r Beirniaid am eu gwaith trwy gydol y dydd.

Lluniau:
Stocman y Flwyddyn – Adran Moch
Ffensio – Clybiau yn brysur yn cystadlu

%d bloggers like this: