03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dros 200 o blant i serennu ar lwyfan yr esteddfod genedlaethol

AM 9.15 fore Mercher 7 Awst bydd dros 200 o blant bach rhwng 2-5 oed o Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi Sir Conwy yn serennu yn y Pasiant Meithrin a berfformir ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst. Trefnir y Pasiant gan Mudiad Meithrin a bydd y perfformiad yn para tua 20 munud.

Mudiad Meithrin sy’n gyfrifol am gydlynu’r pasiant yn flynyddol ac eleni y teitl yw ‘Parti Dewin.’ Bydd cyfle i bawb ymuno yn y canu gan fynd ar daith ddychmygol o amgylch sir Conwy gyda’r plant i ddod o hyd i leoliad parti Dewin a Doti er mwyn dathlu pen-blwyddi cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin yn 10 oed.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:

“Gan fod Dewin a Doti yn dathlu eu pen-blwyddi yn 10 oed eleni, ‘Dathlu’ yw’r thema sydd wedi treiddio trwy ein holl weithgareddau eleni. Dechreuwyd ar y dathliadau trwy gynnal Parti Piws Mwyaf y Byd ar 10 Ebrill pan gymerodd 12,856 o bobl ran trwy wisgo piws ar y diwrnod. Felly ‘Parti Dewin’ yw teitl y Pasiant Meithrin yn Eisteddfod Genedlaethol sir Conwy a fydd yn cael ei arwain gan Dilwyn Price – felly bydd yn siŵr o fod yn berfformiad byrlymus a hwyliog iawn!’

Dywedodd Nia Wyn Jones ac Elin Medi Hughes Swyddogion Cefnogi’r Mudiad sy’n gweithio yn Sir Conwy:

“Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd i gael perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Mi fydd y Pasiant yn berfformiad bywiog a lliwgar ac yn ffordd wych o ddathlu addysg Gymraeg ar ei gorau gan blant bach ardal Sir Conwy.”

Bydd sawl Parti Piws yn cael ei gynnal i ddathlu’r pasiant yn uned Mudiad Meithrin wedi’r perfformiad. Yn ystod y partïon yma bydd tystysgrif yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i’w hatgoffa o’r achlysur arbennig ynghyd â llyfryn a gyhoeddwyd yn arbennig i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti sef ‘Y Parti Piws’.

Meddai Carys Gwyn, Rheolwr Talaith Gogledd-ddwyrain Mudiad Meithrin ac un o drefnwyr y Pasiant:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb am eu cydweithrediad parod i lwyfannu’r Pasiant Meithrin eleni, yn enwedig i Dilwyn Price am arwain y pasiant, i Elin Rhys am gyfeilio, ac, wrth gwrs, i’r holl arweinyddion, staff, a’r rhieni sydd wedi bod yn brysur yn paratoi’r plant tuag at y perfformiad arbennig yma – ac  yn bennaf oll i’r holl blant fydd yn serennu ar y llwyfan.”

%d bloggers like this: