09/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dros 80 o fusnesau newydd Abertawe yn elwa o gymorth ariannol

MAE dwsinau o fusnesau newydd yn Abertawe wedi elwa o gyllid gwerth dros £80,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r ffigurau ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 yn dangos bod 87 o fusnesau newydd wedi derbyn cyllid i helpu i dalu costau gwaith gan gynnwys dylunio gwefannau, cyrsiau hyfforddi ac offer.

Mae’r cynlluniau ariannu, y mae Cyngor Abertawe’n eu rhedeg, yn cynnwys Grant Cychwyn Busnes Abertawe a Grant Cychwyn Busnes UK Steel Enterprise.

Mae Clwb Menter i Fusnesau Newydd Abertawe hefyd yn cael ei redeg gan dîm cymorth busnes Cyngor Abertawe ac mae’n cynnal gweithdai misol gyda siaradwyr arbenigol i roi awgrymiadau i fusnesau newydd mewn meysydd gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cyfraith cyflogaeth a rhwydweithio.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, “Mae’n rhoi boddhad mawr bod y cyngor wedi gallu cefnogi cymaint o fusnesau newydd yn Abertawe, ni fyddai llawer ohonynt wedi gallu fforddio cychwyn busnes heb gymorth ariannol.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod gan Abertawe gymaint o ddawn entrepreneuraidd ac mae rhai o’r busnesau newydd hyn hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant yng nghanol y ddinas.

“Rydym yma i’n busnesau a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu.”

Mae’r busnesau hynny sydd wedi elwa o gymorth ariannol wrth gychwyn busnes yn cynnwys Super Bio Boost ar y Stryd Fawr a Crochenwaith Llwyndu Pottery yn y Glais.

Un busnes sydd wedi derbyn cyllid grant Cychwyn Busnes Cyngor Abertawe yw Super Bio Boost, sy’n arbenigo mewn cynnyrch iechyd cyfannol a wnaed o blanhigion a pherlysiau wedi’u tyfu’n naturiol.

Meddai’r perchennog, Franck Banza,  “Defnyddiwyd y grant i ddylunio ac adeiladu gwefan Super Bio Boost, sy’n rhan bwysig o’r busnes oherwydd yr amrywiaeth o wybodaeth rydym yn ei darparu am gynnyrch iechyd cyfannol.

“Arian yw’r rhwystr mwyaf wrth gychwyn busnes ac mae derbyn grant, ni waeth pa mor fach neu fawr yw hynny, yn gwneud gwahaniaeth enfawr.  Mae’r grant wedi fy nghaniatáu i gynllunio’n iawn a symud yn gyflymach tuag at fy nghynlluniau tymor byr.”

Mae busnes Crochenwaith Llwyndu Pottery, sy’n creu amrywiaeth o nwyddau ceramig addurniadol Cymreig, y mae llawer ohonynt ar thema Gymreig, hefyd wedi elwa o gyllid Grant Cychwyn Busnes UK Steel Enterprise.

Meddai’r perchennog, Siwan Thomas, “Defnyddiais y grant i brynu amrywiaeth eang o offer ar gyfer y busnes, gan gynnwys teclyn i helpu rholio, rheseli i ddal gleiniau ac olwyn. Roedd hyn wedi caniatáu i’r busnes gynhyrchu amrywiaeth ehangach o gynnyrch a chynyddu cynhyrchiant ar yr un pryd.

“Gall arian fod yn dynn wrth gychwyn busnes, a byddai wedi bod yn gost uchel i fi fel arall felly rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth.”

%d bloggers like this: