03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dweud eich dweud am ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n gofyn i’r cyhoedd ddweud ei ddweud am ei ymateb i’r pandemig Coronafeirws.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gwahodd pobl i rannu eu profiad o ddefnyddio’r gwasanaeth, p’un ai trwy’r gwasanaeth 999, 111 neu’r Gwasanaeth Cludiant Cleifion.

Mae hefyd yn awyddus cael barn y cyhoedd ar ba mor hawdd ydi cael gwybodaeth, yn ogystal â’r broses o gynnig cynorthwyo gydag offer a gwirfoddoli.

Dywedodd Rachel Marsh, Cyfarwyddwr Strategaeth, Perfformiad a Chynllunio’r Ymddiriedolaeth: “Mae’r pandemig Covid-19 wedi bod yr her mwyaf yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol am genhedlaeth.

“Rydym ni wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl tra’n ymdrin â’r argyfwng iechyd byd-eang hwn, sydd wedi cynnwys cael cymorth y lluoedd arfog ac adleoli mwy na 200 o gydweithwyr i feysydd allweddol y gwasanaeth, fel 111.

“Cleifion sydd wrth graidd ein gwasanaeth, felly rydym ni’n awyddus i glywed sut mae hyn wedi bod ar lawr gwlad i’r bobl rydym ni’n eu gwasanaethu, pobl yng Nghymru.

“Dydyn ni ddim wedi dod trwyddi eto, ond fel gwasanaeth ambiwlans blaengar rydym ni’n dechrau troi ein sylw at y gwersi a ddysgwyd a beth arall y gallem ni ei wneud ac medrwn ei wneud yn awr.

“Does dim rhaid i chi fod wedi defnyddio’r gwasanaeth i gymryd rhan yn yr arolwg, ac rydym ni’n croesawu’r holl adborth.”

Cliciwch yma i ateb cwestiynau’r arolwg. Y dyddiad cau ydi Dydd Gwener, 12 Mehefin 2020.

%d bloggers like this: