04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dweud eich dweud ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

MAE’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn estyn gwahoddiad i’r cyhoedd ymuno â sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.

Bydd yr ymgynghoriad yn caus Gorffennaf 31.

Mae’r Comisiwn yn gorff annibynnol sydd â’r dasg o ystyried opsiynau am sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Dwed y Comisiwn:

” Rydym yn gorff annibynnol sydd â’r dasg o ystyried opsiynau am sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Gofynnwyd inni edrych ar sut y gallai Cymru gael ei rhedeg yn wahanol, tra’n parhau i fod yn rhan annatod o’r Deyrnas Unedig. Gofynnwyd i ni hefyd ystyried opsiynau eraill i gryfhau democratiaeth Cymru, tu fewn a thu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae ein tasg yn cynnwys edrych ar y trefniadau presennol, pwy sydd â’r pŵer dros beth, y rheolau cyfredol ar sut caiff Cymru ei rhedeg, ac os mai dyma’r ffyrdd gorau o drefnu pethau, gan gynnwys:

pwy sy’n gwneud y penderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar bobl Cymru, a sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud; a hefyd

ar ba agweddau o’n bywyd cenedlaethol y dylai Cymru lunio rheolau a gwneud penderfyniadau drosti hi ei hun?

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer â phosibl o bobl, o bob rhan o gymdeithas a phob cymuned ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i chi, a’ch gobeithion am ddyfodol Cymru.”

%d bloggers like this: