03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dweud eich dweud ynglŷn â lleihau llifogydd yn Nyffryn Teifi

GOFYNNIR i drigolion Ceredigion a Sir Gâr am eu barn ynghylch y bwriad i leihau llifogydd yn y mannau sy’n cael eu taro fwyaf yn Nyffryn Teifi ‒ yn Llanybydder, Llandysul a Phont-Tyweli.

Mae’r cynigion yn cynnwys mesurau naturiol ar gyfer rheoli llifogydd, adeiladu argloddiau, codi amddiffynfeydd uwch, gosod sianeli lliniaru llifogydd ac adeiledd rheoli, a hefyd diogelu tai unigol a gosod amddiffynfeydd dros dro.

Bydd yr adborth o’r rhaglen ymgysylltu ar-lein, a fydd yn rhedeg rhwng 6 Mehefin a 18 Gorffennaf, yn bwydo i mewn i gam nesaf y gwaith ac yn rhan o benderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch dylunio a gweithredu cynllun posib i leihau’r perygl o lifogydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn holi am adborth i ddeall yn well yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar y cymunedau a sut mae llifogydd yn digwydd, a hefyd i asesu’r gwahanol fesurau ar gyfer lleihau effaith llifogydd yn ystod y tywydd cynyddol stormus a fydd yn y dyfodol.

Mae’r tair cymuned wedi dioddef sawl achos o lifogydd yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Storm Callum yn 2018 pan lifodd dŵr i dai preswyl ac eiddo masnachol a bu’n rhaid cau ffyrdd. Mae’r ddau Awdurdod Lleol ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd yn dilyn Storm Callum ac wedi nodi opsiynau posib ar gyfer lleihau llifogydd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, Keith Henson a Chyfarwyddwr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin, Ainsley Williams:

“Diben y rhaglen ymgysylltu hon yw dangos i’r trigolion yr amrywiaeth o opsiynau yr ydym yn bwriadu eu pwyso a’u mesur ymhellach, yn enwedig o ran eu hymarferoldeb ar gyfer rheoli perygl llifogydd a sut y gallai’r atebion posib weddu i’r amgylchedd lleol. Diben arall yw cael adborth y trigolion. Mae’r gwaith yma yn dilyn o’r asesiadau cychwynnol blaenorol a gwblhawyd ar ddiwedd 2020. Rydym yn annog cynifer â phosib o drigolion yr ardaloedd hyn i roi eu hadborth.”

 

%d bloggers like this: