03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dyfarnu Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddau sefydliad o Geredigion

MAE dau sefydliad yng Ngheredigion, sef Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf a Woody’s Lodge, wedi ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2021. Mae’r gwobrau, a ddyfarnwyd gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA), yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr Lluoedd Arfog Ceredigion. Yn dilyn cyhoeddi’r gwobrau, dywedodd: “Fel Eiriolwr y Lluoedd Arfog, rwy’n falch iawn bod dwy elusen uchel eu proffil sy’n gweithredu yng Ngheredigion wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniad drwy’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Rwy’n gwybod bod aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr yn gwerthfawrogi’r gwaith caled y mae’r sefydliadau hyn wedi’i wneud i ennill y gwobrau hyn sydd yno i helpu’r rheini sy’n trosglwyddo’n ôl i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog a’r rheini sy’n filwyr wrth gefn ddod â’u sgiliau trosglwyddadwy yn ôl i’n cymuned i helpu i wella dyfodol Ceredigion. Llongyfarchiadau calonnog iddynt”.

Mae cyfanswm o 24 sefydliad ledled Cymru wedi derbyn gwobr. O dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae cyflogwyr yn cefnogi personél ym maes Amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae tair lefel i’r cynllun, Efydd, Arian ac Aur i sefydliadau sy’n addo, yn arddangos ac yn hyrwyddo cefnogaeth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

I ennill y wobr Arian, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Hefyd, mae’n rhaid iddynt fynd ati i sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl ym maes Amddiffyn o safbwynt Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Mae Woody’s Lodge, sydd wedi’i leoli ger Llandysul, yn fan cyfarfod lle gall y rheini sydd wedi gwasanaethu gael cyngor arbenigol ar draws ystod o bynciau yn ogystal â chael cyfle i wneud ffrindiau newydd ac ail-gysylltu â’u hanwyliaid.

Graham Jones yw Prif Swyddog Gweithredol Woody’s Lodge. Dywedodd: “Newyddion annisgwyl braf oedd derbyn y wobr hon i gydnabod y gwaith caled a wnaed gan ein tîm ledled Cymru”.

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf, sydd wedi’i leoli ym Mhenparcau, yn sefydliad a arweinir gan y gymuned sy’n datblygu gweithgareddau cymunedol cynaliadwy a chynhwysol er budd pawb.

Karen Rees Roberts yw Rheolwr y Fforwm. Dywedodd: “Rydym yn hynod falch a diolchgar o dderbyn y wobr hon, a hoffem ddiolch i Colin Jones, Mentor Cymorth Cymheiriaid i Gyn-filwyr, am ei holl waith caled.”

I gael gwybod mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a sut y gall eich busnes elwa o gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, ewch i:

https://www.gov.uk/government/publications/defence-employer-recognition-scheme/defence-employer-recognition-scheme

%d bloggers like this: