04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dylai ysgolion cynradd ddysgu tair iaith medd Neil McEvoy

MAE Neil McEvoy AS, Arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn cynnig y dylai dysgu tair iaith o ddiwrnod cyntaf yr ysgol, fod yn norm yng Nghymru.

Mae Mr McEvoy wedi cyflwyno tri gwelliant i ddadl Plaid Cymru yn y Senedd ar addysg.

Mae’r gwelliannau’n galw am fuddsoddi ar gyfer cyrsiau trochi Cymraeg, dysgu iaith dramor fodern o Flwyddyn 1 yr ysgol ac am gefnogaeth i dorri maint dosbarthiadau i 20 o ddisgyblion.

Bydd Mr McEvoy yn nodi bod angen strategaeth drawsnewidiol o ran lefel y buddsoddiad yn y gweithlu a hyfforddiant athrawon, yn enwedig ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg, sydd angen sylw penodol ar fyrder, os ydym am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ar hyn o bryd mae nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd modern fel pynciau ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn crebachu.

Mae’r pwyslais o ran polisi dros y 10 – 15 mlynedd diwethaf wedi bod ar awdurdodau lleol yn adolygu lleoedd ysgol dros ben er mwyn canoli’r ddarpariaeth. Dadleua Mr McEvoy fod angen adolygu hyn fel bod ysgolion lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu cadw yn hytrach na’u clustnodi i’w cau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Neil McEvoy AS:

“Dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i siarad Cymraeg, Saesneg ac iaith dramor fodern yn rhugl. Mae angen inni weithredu rhaglen o uwchsgilio staff a disgyblion fel ei gilydd.

“Dylai cyrsiau trochi dwys fod yn norm yng Nghymru. Byddai lefel well o lawer o allu ieithyddol yn gwneud Cymru yn wlad fwy ystwyth yn economaidd.

“Mae’r Blaid Genedlaethol yn llwyr gefnogi dysgu hanes Cymru. Mae’n bryd inni fod yn hyderus fel cenedl a gwybod ein hanes ein hunain.

“Y ffordd orau o gyflwyno chwyldro addysgol fyddai buddsoddiad o ddifrif i leihau maint dosbarthiadau yng Nghymru. Byddai unrhyw athro yn dweud wrthych fod gwahaniaeth enfawr rhwng dysgu dosbarth o 30 a dosbarth o 16. Mae maint dosbarthiadau llai wedi cwympo oddi ar yr agenda wleidyddol ac mae’r Blaid Genedlaethol eisiau ei osod yn ôl yno.”

%d bloggers like this: