04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dyn o Dresimwn yn cael dedfryd o garchar a gwaharddiad gydol oes am droseddau creulondeb anifeiliaid

MAE masnachwr a bridiwr ceffylau wedi’i gael yn euog o achosi dioddefaint diangen i geffylau a defaid yn dilyn erlyniad llwyddianus gan Gyngor Bro Morgannwg.

Cafwyd Thomas Tony Price yn euog ar 32 cyfrif, gan gynnwys methu â sicrhau amgylchedd addas i anifeiliaid, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful a’i ddedfrydu i chwe mis yn y carchar.

Cafodd ei wahardd am oes hefyd rhag cadw unrhyw anifeiliaid ar ôl hanes o erlyniadau am gam-drin a arweiniodd ato’n cael ei anghymhwyso yn y gorffennol am bum mlynedd.

Cyn pasio dedfryd, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Neil Thomas wrth Price fod y dystiolaeth yn ei erbyn wedi bod yn rymus. Roedd wedi methu â rheoli’r anifeiliaid yn gymwys ac roedd llawer gormod ohonynt.

Roedd y barnwr hefyd yn feirniadol o Price am rwystro swyddogion wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau ar un o’r safleoedd.

Gan ymwneud â thri lleoliad ar draws y Fro a Phen-y-bont ar Ogwr, clywodd y llys fod Price o Redway Road, Tresimwn wedi cadw’r anifeiliaid mewn amodau erchyll.

Roedd cyd-amddiffynnydd Price, Luanne Bishop, wedi pledio’n euog o’r blaen i 31 o’r cyhuddiadau ac fe’i dedfrydwyd yn yr un gwrandawiad i ddedfryd o 12 wythnos yn y carchar, a ataliwyd am 12 mis.

Bydd rhaid iddi wisgo tag electronig ar gyfer y cyfnod hwnnw a bod yn destun cyrffyw yn ystod y nos rhwng 9pm a 6am.

Yn ogystal cafodd Bishop ei anghymhwyso rhag cadw unrhyw anifeiliaid am oes, ac eithrio nifer o anifeiliaid anwes penodol.

Daethpwyd â’r Achos i dreial dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y corff sy’n gyfrifol am ddarparu swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu ar draws ardaloedd Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Ym mis Awst 2019, daeth Swyddogion Iechyd a Lles Anifeiliaid o hyd i ddiadell o ddefaid Jacob gyda chnu yn dal heb eu cneifio yn ystod ymweliad â Sŵn-y-Môr yn y Wig er ei bod yn hwyr yn yr haf.

Darganfuwyd sawl carcas dafad ar y safle hefyd ac wrth archwilio’n fanylach, daeth i’r amlwg bod nifer o’r defaid a oedd yn weddill yn dioddef effeithiau cynrhon a chlwyfau cysylltiedig.

Dan oruchwyliaeth filfeddygol, cafodd y defaid yr effeithiwyd arnynt waethaf eu rhoi i gysgu ac atafaelwyd gweddill y ddiadell gan yr Awdurdod Lleol.

Yna, ym mis Ionawr y llynedd, canfu Swyddogion Iechyd a Lles Anifeiliaid fod Price yn cadw ei geffylau mewn amodau gwarthus ar safleoedd yn Nhresimwn, yng Nghoety ac eto yn Sŵn-y-Môr.

Fe’u cafwyd yn sefyll mewn mwd dwfn iawn; roedd diffyg dŵr ffres glân ac nid oedd gan rai unrhyw borthiant.

Roedd dau o’r safleoedd yn llawn peryglon megis metel miniog a weiren bigog, ac ar un safle roedd y ceffylau’n cael eu cadw mewn amodau gorlawn a mochynnaidd heb unman iddynt orwedd.

Cyhuddwyd Price o achosi dioddefaint diangen i wyth ceffyl, roedd rhai ohonynt yn sylweddol dan bwysau tra bod gan eraill glwyfau hirsefydlog a achoswyd gan rygiau nad oeddent yn ffitio’n iawn.

Gadawyd y swyddogion heb unrhyw ddewis ond atafaelu cyfanswm o 240 o geffylau o’r tri lleoliad.

Dywedodd Dave Holland, Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

“Mae gan Mr Price hanes o gam-drin anifeiliaid ac rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn cyfleu neges na fydd y fath esgeulustod a chreulondeb yn cael eu goddef yn ardaloedd o’n Hawdurdod Lleol.

“Mae’r penderfyniad i roi dedfryd o garchar a’i anghymhwyso am oes yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn a’r dioddefaint eithafol yr oedd Price yn gyfrifol amdano.

“Nid yn unig y mae arferion Price yn niweidio anifeiliaid, maent hefyd yn achosi problemau i’r cymunedau ehangach gan yr arferai adael i’w anifeiliaid grwydro neu bori’n anghyfreithlon ar dir nad oedd yn berchen arno.

“Mae’r gollfarn hon yn dilyn misoedd lawer o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, Redwings Heddlu De

Cymru a’r RSPCA. Mae gorfod atafaelu a gofalu am anifeiliaid ar y raddfa hon wedi bod yn gostus dros ben, ond ni ddylid gadael y rhai sy’n cadw anifeiliaid heb unrhyw amheuaeth bod y rhain yn gamau rydym yn barod i’w cymryd i sicrhau bod anifeiliaid yn cael y lefel briodol o ofal.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA:

“Roeddem yn falch o gefnogi’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gyda’r gweithrediad ceffylau cymhleth a phwysig hwn, sy’n amlygu eto’r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio er lles anifeiliaid.

“Roedd llawer o’r ceffylau hyn yn byw mewn amodau cwbl amhriodol ac rydym yn hapus iawn i fod wedi gweithio’n agos gyda’r GRhR, yr Heddlu a Redwings i’w hachub a sicrhau bod gan lawer o’r anifeiliaid hyn ail gyfle o hapusrwydd.”

Dywedodd Nic de Brauwere, Pennaeth Lles ac Ymddygiad Redwings ac Uwch Filfeddyg:

“Gwelais yn uniongyrchol yr amodau erchyll a’r diffyg gofal enbyd ar y safleoedd hyn, a oedd yn cynnwys merlod â chlwyfau heb eu trin, dim digon o fwyd a dŵr a llawer a oedd dan bwysau i raddau difrifol yn byw mewn amodau cwbl anaddas. Felly, rwy’n falch iawn ac yn llawn rhyddhad o weld erlyniad llwyddiannus a dedfrydu llym, a fydd yn atal mwy o geffylau rhag wynebu esgeulustod gan yr unigolion hyn. Nid dyma’r achos cyntaf o bell ffordd y mae Redwings wedi ymdrin ag ef sydd wedi ymwneud â cheffylau gan y perchennog hwn ac mae’n anodd mynegi’r holl amser elusennol, yr egni a’r adnoddau yr ydym wedi’u buddsoddi i ddiogelu’r anifeiliaid hyn dros y blynyddoedd.

“Hoffem ddiolch yn ddiffuant i gynghorau’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, a barhaodd â’r achos hollbwysig hwn trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf heriau wedi’u hachosi gan y pandemig, ac i’n cyd-elusennau lles sydd wedi ein cefnogi bob cam o’r ffordd. Erbyn hyn, mae ymdrechion ar y gweill i ailgartrefu’r ceffylau, sydd ers hynny wedi cael eu hadfer i iechyd llawn.”

 

%d bloggers like this: