04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dyn o Gaerfyrddin i dalu dros £500 yn sgil trosedd gwastraff

MAE dyn o Gaerfyrddin wedi cael gorchymyn i dalu dros £500 am dorri hysbysiad amgylcheddol a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhoddwyd dirwy o £220 i Thomas Charles Davies, 19 oed, o Prospect Place, a dywedwyd wrtho am dalu costau o £259.14 yn ogystal â gordal dioddefwr o £32 pan brofwyd yr achos yn ei absenoldeb yn Llys Ynadon Llanelli.

Clywodd y llys fod trigolion yn ardal Heol Awst, Caerfyrddin wedi gwneud nifer o gwynion i’r Cyngor ynghylch pobl yn gadael bagiau sbwriel wrth fynedfa eu hiardiau.

Ym mis Medi 2018, yn dilyn y cwynion hynny, aeth swyddogion gorfodi i’r ardal a dod o hyd i dystiolaeth yn gysylltiedig â Davies.

Buont yn ymweld â’i gartref ac yn siarad ag ef am y sbwriel, gan ddangos y dystiolaeth yr oeddent wedi’i chasglu. Ar ôl hynny, cyflwynwyd hysbysiad iddo yn nodi’r gofynion ynglŷn â gosod gwastraff allan yn gywir i’w gasglu wrth ymyl y ffordd.

Fodd bynnag, yn dilyn rhagor o gwynion, aeth swyddogion i’r ardal eto ym mis Gorffennaf 2019 ac unwaith eto cafwyd hyd i dystiolaeth yn gysylltiedig â Davies.

Aethant i’w gartref eto a rhoddwyd cosb benodedig iddo y tro hwn am dorri’r hysbysiad a gyflwynwyd iddo yn y mis Medi blaenorol.

Ni thalodd Davies y gosb benodedig, er iddo gael ei atgoffa, ac felly cyfeiriodd y Cyngor y mater at y llys ynadon.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Orfodi: “Rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol wrth waredu eu gwastraff i ddiogelu ein hamgylchedd a’n cymunedau. Mae’n drueni, er i ni gysylltu â’r dyn hwn sawl gwaith, nad oedd wedi gwrando ar ein cyngor ac yn dilyn hynny ei fod wedi gorfod mynd gerbron y llys a chael bil mawr.”

%d bloggers like this: