03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dysgu beicio drwy gyfrwng y Gymraeg Learn to cycle in Welsh

BELLACH, gall beicwyr ifanc yn Sir Gaerfyrddin ddysgu beicio ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r rhaglen Barod, Beicio, Bant â ni bellach ar gael yn y ddwy iaith ar wefan Actif y cyngor a bydd yn dangos plentyn sut i baratoi i reidio beic, i gydbwyso ac yn olaf i feistroli sgil pedlo.

Ariannodd tîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin y cyfieithiad Cymraeg o raglen HSBC UK Beicio Prydain, gan weithio’n agos gyda Beicio Cymru a Beicio Prydain a’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Mae tair set o gardiau ar-lein hwyliog sy’n cynnwys gwybodaeth am ddysgu sut i reidio beic a gellir gwneud hyn mewn gardd, dreif neu barc gyda llechen neu ffôn.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Chwaraeon: “Rydym wrth ein boddau ein bod ni wedi gallu cefnogi’r rhaglen hon drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hwn yn gam arall rydym yn ei gymryd i fod yn Ganolbwynt Beicio Cymru. Mae beicio’n ffordd wych o gadw’n heini ac mae’n gwella hunanhyder plentyn. Mae’r rhaglen hefyd yn hyblyg ac yn llawn hwyl a gellir ei gwneud yn yr ardd, yr iard chwarae, gartref neu yn yr ystafell ddosbarth ac yn bwysicaf oll, mae’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Charlotte Connolly, arweinydd ansawdd a gweithlu Beicio Prydain: “Mae reidio beic yn sgil bywyd sy’n rhoi ymdeimlad o ryddid a chredwn y dylai pawb gael y cyfle i ddysgu. Mae gallu cyflwyno’r gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn agor y drws i lawer mwy o ddysgwyr ac yn sicrhau bod mwy o blant yn beicio. Rydym yn ddiolchgar am y gwaith a wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin i helpu i gyfieithu’r adnodd hwn i’r Gymraeg, gan weithio ochr yn ochr â Beicio Cymru, Beicio Prydain a’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.”

Mae’r rhaglen ddwyieithog Barod, Beicio, Bant â ni ar gael ar wefan actif.cymru

Budding cyclists in Carmarthenshire can now learn to cycle online in the Welsh language.

The Ready Set Ride programme is now available in both languages on the council’s Actif website and will guide a child from preparing to ride a bike, to balancing and finally to mastering the skill of pedalling.

Carmarthenshire County Council’s Sport and Leisure team funded the Welsh translation of British Cycling’s HSBC UK programme, working closely with British and Welsh Cycling and the Youth Sport Trust

There are three sets of fun online cards with information on learning how to ride a bike and this can be carried out in a garden, a drive or a park with a tablet or phone.

The council’s executive board member responsible for sport, Cllr Peter Hughes Griffiths said: “We are delighted that we have been able to support this in the Welsh language and this is yet another step we are taking on our role as the Cycling Hub for Wales. Cycling is a great way to keep active and enhances a child’s self-confidence. The programme is also fun and flexible and can be done in the garden, playground, at home or in the classroom and most importantly it is inclusive and accessible to all.”

British Cycling’s quality and workforce lead, Charlotte Connolly said: “Riding a bike is a life skill, that gives a great sense of freedom and we believe everyone should have the chance to learn. Being able to deliver the activities in Welsh opens the door to many more learners and more kids on bikes. We are grateful for the work that Carmarthenshire put into helping get this resource translated into Welsh, working alongside Welsh Cycling, British Cycling and the Youth Sport Trust.”

The Ready, Set, Ride bilingual programme is available to view on actif.wales website

 

 

%d bloggers like this: