I NODI Diwrnod y Llyfr, mae Gwasanaeth Llyfrgell Ysgolion Gwynedd yn lansio cynnig e-lyfrau ac e-lyfrau llafar i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6 yn rhad ac am ddim drwy wasanaeth Borrowbox fel rhan o wasanaeth ar gytundeb i ysgolion cynradd y sir.
Mae’r cynllun yn defnyddio fersiwn o Borrowbox, sef llyfrgell ddigidol sy’n galluogi defnyddwyr i fenthyg e-lyfrau neu lyfrau llafar i’w darllen neu wrando ar eu dyfais glyfar neu gyfrifiadur. Mae’n cynnwys detholiad o adnoddau yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n addas i blant, felly nid oes modd iddynt lawrlwytho llyfr anaddas neu gyda chynnwys aeddfed.
Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach am y gwasanaeth, gallwch e-bostio GLLY@gynedd.llyw.cymru
Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd:
“Mae galw cynyddol wedi bod am e-lyfrau Cymraeg yn benodol yn sgil y pandemig a’r cyfnodau clo, ac yr ydym yn falch o ymateb i’r galw drwy gynnig dewis eang o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg i blant drwy lyfrgell digidol sydd bob amser ar agor.”
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, sydd â chyfrifoldeb dros Lyfrgelloedd Gwynedd:
“Rydym yn falch o fedru ehangu’r cynllun pwysig yma drwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd ysgolion er mwyn sicrhau fod adnoddau ar gael ar unrhyw adeg o’r dydd mewn modd hwylus i ddarllenwyr ifanc.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:
“Mae’r cynllun eisoes wedi bod ar gael i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 ac mae wedi profi’n boblogaidd, felly mae’n braf ei fod wedi cael ei ymestyn hyd at flwyddyn 6 a bod mwy o’r disgyblion yn gallu elwa o’r adnodd defnyddiol a phwysig yma.”
Dywedodd Iwan Davies, Pennaeth Ysgol Rhiwlas:
“Diolch yn fawr i Wasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Gwynedd am ymestyn yr adnodd hwn i flynyddoedd 5 a 6.
“Mae disgyblion blwyddyn 3 a 4 eisoes yn defnyddio BorrowBox ac mae’n arf ychwanegol i ddenu plant i ddarllen a gwella eu sgiliau llythrennedd.
“Mae’r broses gofrestru yn rhwydd iawn ac mae’r plant wedi derbyn manylion mewngofnodi drwy’r ysgol.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m