04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Effeithlonrwydd wrth gynhyrchu yn allweddol er mwyn lleihau ôl troed carbon ffermydd llaeth Cymru

Bydd angen i nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru sicrhau eu bod yn cynhyrchu mewn ffordd fwy effeithlon er mwyn lleihau eu hôl troed carbon a chyflawni targedau allyriadau a ysgogir gan y farchnad a chan bolisi.

Yn ystod gweminar a gynhaliwyd gan Gyswllt Ffermio yn ddiweddar, hysbyswyd ffermwyr gan Diane Spence, ymgynghorydd amaethyddol, bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 14% o’r holl allyriadau yng Nghymru, a bod tua 27% o’r rhain yn dod o’r sector llaeth.

Er bod y ganran hon yn is na’r 29% a gynhyrchir gan y diwydiant cyflenwi ynni, y 22% gan fyd busnes a’r 16% gan drafnidiaeth, cynghorwyd ffermwyr a fu’n cymryd rhan mewn gweminar a gynhaliwyd gan Gyswllt Ffermio yn ddiweddar ei bod yn bwysig cymryd camau i leihau’r ganran hon os yw targedau y cytunwyd arnynt ar gyfer y diwydiant yn mynd i gael eu cyflawni.

Mae ôl troed carbon cynnyrch yn ymwneud â chyfanswm y nwyon tai gwydr y mae’n eu rhyddhau yn ystod ei gylch bywyd llawn; mae’r rhain yn cynnwys methan, ocsid nitrus a charbon deuocsid.

Allyriadau methan enterig yw ffynhonnell unigol fwyaf allyriadau nwy tŷ gwydr (GHG) uniongyrchol ymhlith anifeiliaid cnoi cil – ond mae allyriadau ocsid nitrus (sy’n gysylltiedig â nitrogen mewn tom a gwrteithiau a brynir) yn bwysig hefyd. Yn wahanol i ocsid nitrus a charbon deuocsid, mae methan yn nwy dynamig sy’n aros yn yr atmosffer am 10-12 mlynedd.

Soniodd Diane wrth y weminar mai’r defnydd effeithlon o fewnbynnau mewn perthynas ag allbynnau yw’r peth allweddol er mwyn lleihau’r ôl troed carbon, a bod cysylltiad agos rhwng hyn a pherfformiad technegol cyffredinol menter.

Ceir pum prif faes sy’n berthnasol i bob math o fferm laeth – o systemau pori helaeth i systemau dan do llawn – o ran lleihau eu hôl troed carbon:

Effeithlonrwydd porthiant a phrotein

Ceir ymyriadau, megis offerynnau fformiwleiddio dognau a dadansoddi silwair, er mwyn gwella hyn.

Cynghorodd Diane y dylai ffermwyr ystyried dewisiadau amgen i flawd ffa soia (a gaiff ei fewnforio o wledydd trofannol fel Brasil a’r Ariannin, ac sy’n gysylltiedig â datgoedwigo ac allyriadau nwyon tŷ gwydr uchel), megis blawd had rêp – a hefyd, rôl sgil-gynhyrchion megis grawn bragu a mwydion betys siwgr yn y dogn.

Geneteg ac iechyd anifeiliaid

Mae ffrwythlondeb, oedran yr anifail pan fyddant yn geni eu llo cyntaf a marwoldeb yn bwysig.

Argymhellodd Diane y dylai ffermwyr ddefnyddio eu cynllun iechyd buches i fonitro perfformiad. Dylai hyn gynnwys nodi cyfradd farwoldeb y fuwch dros y 12 mis diwethaf, pennu tri maes ffocws a phennu nodau realistig er mwyn sicrhau gwelliant. “Mae’n ymwneud â chael gwartheg iach,” dywedodd.

Defnydd effeithlon o faethynnau a gwrteithiau anorganig mewn tom, a nitrogen yn arbennig

Mae allyriadau ocsid nitrus yn deillio o gynhyrchu a defnyddio gwrtaith mwynol, yn ogystal ag o slyri a thom buarth (FYM) yn ystod gweithgarwch storio a defnyddio.

Mae optimeiddio swm y nitrogen a brynir ac a ddefnyddir, a gwella’r trefniant ar gyfer defnyddio, storio a gwasgaru tom yn cael effaith arwyddocaol ar yr ôl troed carbon. Mae’n bwysig cynnal cynllun rheoli maethynnau a phrofi pridd yn rheolaidd er mwyn asesu’r maethynnau a’r galw.

Mae gwasgaru FYM pan fo’r borfa yn tyfu yn ystod y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf yn gwella effeithlonrwydd wrth amsugno maethynnau; yn ogystal, mae’n lleihau allyriadau a materion amgylcheddol canlyniadol megis dŵr ffo a thrwytholchi, sy’n broblem benodol pan gaiff ei wasgaru yn ystod amodau gwlyb.

Mae gorchuddio safleoedd storio tom yn lleihau allyriadau ocsid nitrus hefyd, gan helpu i wella cyfraddau defnyddio maethynnau.

Defnydd tir

Mae porthiant yn cynrychioli rhan sylweddol o’r diet ar ffermydd llaeth yng Nghymru; felly, mae’n bwysig optimeiddio cynhyrchiant glaswelltir.

Er mwyn sicrhau porfa o ansawdd da a lleihau ôl troed carbon eu fferm, dylai ffermwyr ystyried osgoi troi’r tir, gan gynnal porfa heb ail-hadu trwy ddefnyddio tros-hau neu’r gweithgarwch trin tir lleiaf, neu geisio cynnal gwyndynnydd hir.

“Dylent annog mwy o gyfraniad gan godlys ac ystyried rhywogaethau sydd â gwreiddiau dyfnion, er enghraifft, llyriad,” dywedodd Diane.

Atafaelu

Mae cloi nwyon tŷ gwydr i ffwrdd yn bwysig hefyd; ceir cyswllt uniongyrchol rhwng hyn ac iechyd y pridd. Bydd pridd nad yw wedi’i gywasgu ac sy’n iach yn atafaelu mwy o garbon.

“Mae hyn oll yn dda ar gyfer perfformiad glaswelltir, hefyd,” nododd Diane.

Mae amaethyddiaeth mewn sefyllfa unigryw i atafaelu carbon, gan fod ganddi’r tir a’r gallu i wneud hyn.

Aeth Diane ymlaen i annog ffermwyr i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio er mwyn profi pridd, dadansoddi porthiant a chael cyngor ynghylch rheoli glaswelltir a chreu dognau.

Datblygwyd oddeutu 60 o offerynnau er mwyn cyfrifo ôl troed carbon fferm. Fodd bynnag, ceir tri offeryn am ddim sydd ar gael, a’r rhain yw’r rhai mwyaf cyffredin a ddefnyddir: Farm Carbon Toolkit, Cool Farm Tool ac SAC Agrecalc.

Wrth ddewis pa offeryn i’w ddefnyddio, mae’n bwysig dewis un a chadw ato, wrth fesur yr ôl troed ar ôl gwneud newidiadau.

Ar gyfer grwpiau o ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae cyllid o 100% ar gael er mwyn cyfrifo ôl troed carbon eu busnesau.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: