04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ehangu gwasanaeth ymgynghori fideo ar gyfer Gofal Eilaidd a Chymunedol

AR ôl cyflwyno apwyntiadau digidol ar gyfer meddygfeydd ledled Cymru, mae £2.8m pellach wedi’i fuddsoddi i ymestyn y cynllun i feysydd gofal eilaidd a gofal cymunedol drwyddynt draw.

Mae hyn yn cynnwys Nyrsys Cymunedol, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd a Bydwragedd Cymunedol. Ym maes gofal cymunedol, mae’n cynnwys cleifion allanol a chlinigau diabetes.

Bydd y system hon yn galluogi gwasanaethau allweddol i gynnal cyswllt gweledol â chleifion, sy’n arbennig o bwysig mewn rhai gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd ehangu’r gwasanaethau yn galluogi pobl i gynnal apwyntiadau meddygol allweddol, wrth gadw pellter cymdeithasol.

Bydd cynnig ymgynghoriad fideo yn helpu i leihau lledaeniad haint COVID-19 wrth i lai o bobl fynd i ysbytai neu glinigau, gan leihau’r perygl o heintio cleifion a chlinigwyr. Bydd hefyd yn fodd i gleifion sy’n hunanynysu gadw cysylltiad â gweithwyr meddygol proffesiynol.

Heddiw (12 Ebrill), mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething hefyd wedi cyhoeddi £800,000 o gyllid i roi dyfeisiau digidol i ofalwyr, cartrefi gofal a hosbisau i’w galluogi i ddefnyddio gwasanaethau ymgynghori fideo meddygol gan gynnwys apwyntiadau â meddyg. Bydd hefyd yn eu galluogi i gysylltu â’u hanwyliaid yn ystod y cyfyngiadau presennol.

Mae’r cyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gefnogi rhaglen bresennol Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sy’n darparu dyfeisiau, hyfforddiant a chymorth i gyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru nad ydynt eisoes ar-lein. Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi’r rhaglen, a roddir ar waith gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, i ddosbarthu tua 1,000 o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal a wardiau.

Un o fanteision eraill y dyfeisiau newydd yw y bydd pobl yn gallu cadw cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau, gan helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd a rhoi hwb hanfodol i deuluoedd ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Mae technoleg ddigidol eisoes yn chwarae rôl enfawr o ran darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ehangu’r ymgynghoriad fideo i ofal cymunedol yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu cael gwasanaethau meddygol mewn amgylchedd diogel, gan leihau’r risg i gleifion yn ogystal ag i’n gweithwyr iechyd a gofal ymroddedig.

“Rwy’n falch hefyd o ddarparu cyllid pellach i helpu i gefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau i gael apwyntiadau digidol. Bydd y cyllid hwn hefyd yn rhoi hwb ychwanegol i les unigolion drwy gynnig rhith-gysylltiad ag anwyliaid. Rwy’n gobeithio y bydd hyn hefyd yn rhoi sicrwydd i deulu a ffrindiau na all fynd i weld eu hanwyliaid.”

Dywedodd Dr David Hepburn, Ymgynghorydd Gofal Dwys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae ein tîm wedi defnyddio’r offer i gyfathrebu â theulu cleifion sy’n ddifrifol wael. Mae’n declyn hanfodol sy’n ein galluogi i feithrin perthynas agos ac ymddiriedaeth â theuluoedd na all ddod i weld eu hanwyliaid. Mae’n rhoi gwedd ddynol i’n cysylltiadau â nhw ac yn ei gwneud yn bosibl rhoi diweddariadau amser real. Ni allem ddarparu’r gwasanaeth hebddo.”

Dywedodd Lara Ramsay, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Rydym ni i gyd yn cefnogi ein teuluoedd a’n ffrindiau agored i niwed cystal ag y gallwn yn ystod yr argyfwng hwn ac mae’n siŵr bod llawer ohonom yn eu helpu i gysylltu ag eraill drwy dechnoleg ddigidol. Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi’r sgiliau i bobl sydd heb fod ar-lein o’r blaen i’w galluogi i ddefnyddio dyfeisiau digidol yn ddiogel ac yn hyderus.

“Bydd y cyllid hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru i ddarparu dyfeisiau digidol i’n darparwyr gofal allweddol fel y gall y bobl yn eu gofal gadw cysylltiad a chael gwasanaethau iechyd hollbwysig yn ystod y pandemig hwn.”

%d bloggers like this: