03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Eisteddfod clwstwr ysgol uwchradd Cyfarthfa

CYN hanner tumor fuodd disgyblion ar draws Merthyr Tudful yn dangos eu talentau creadigol mewn Eisteddfod Clwstwr, digwyddiad ar-lein yn dathlu talentau yn y Gymraeg.

Cafwyd eitemau offerynnol, action, dawnsio, llefau a chanu caneuon fel ‘calon lan’, ‘sosban fach’ a ‘lliwiau’r enfys’. Bydd rhai yn performio rhai o eu caneuon gwreiddiol a ddatblygwyd mewn gwersi Cymraeg yn yr ysgol. Bydd pob cystadleuydd yn derbyn tystysgrif am eu cyflawniad.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dwedodd y Prif Swyddog Addysg, Sue Walker: 

Am y tro cyntaf eleni, mae Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo wedi cymryd rhan mewn eisteddfod glwstwr. Mae hwn yn rhan o gynlluniau y Cyngor i gynnyddu a chefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg ar draws y Bwrdeistref Sirol. Mae clwstwr PenyDre wedi cynnal digwyddiad cyffelyb ers sawl blwyddyn, a dros y blynyddoedd nesaf gobeithiwn gefnogi clystyrau eraill i gynnal digwyddiad tebyg. Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r plant a phobl ifanc am gymryd rhan a diolch i chi y staff am gefnogi ac i’r beirniaid am eu hamser.

Dwedodd y Pencampwr Iaith Gymraeg y Cyngor a Dirprwy Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas,:

“Mae’n wych gweld ein pobl ifanc yn dod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant. Mae’n galonogol gwybod bod ein traddodiadau mewn dwylo diogel.  Gwaith gwych pawb.”

 

%d bloggers like this: