09/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin Awst 9fed 1974

Araith Gwynoro

Mi ddes ar draws hen dap o’r araith uchod wrth glirio allan tŷ fy llysfam yng Nghefneithin a bu farw yn annisgwyl Mehefin 11 eleni. ‘Roedd y tap mewn cwpwrdd a oedd fy nhad yn ei ddefnyddio a fu farw o yn 2004.

Pan welais y tap mi ddeallais go fuan beth oedd.Cofiais wedyn am ei fodolaeth ond ynghanol bwrlwm gwleidyddol yr Hydref y flwyddyn honno anghofiais bob peth amdano.

Ta beth mi es a’r tap i gwmni sain yn Llangennech sef ‘sonic-one’ (www.sonic-one.co.uk), sydd gyda adnoddau da iawn a throsglwyddwyd y tap i CD a hefyd fideo. Byddaf yn defnyddio stiwdio Tim Hamill lled amal o hyn ymlaen.

Dyma’r cynnyrch.

Mewn ychydig ddyddiau ysgrifennaf yn y blwg nesaf am y twrw a greuwyd gan Plaid Cymru oherwydd i mi gael fy newis gan Bwyllgor Eisteddfod Bro Myrddin i fod yn Lywydd y Dydd a hefyd adroddiad am yr araith yn y Western Mail y dydd dilynnol.

%d bloggers like this: