04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Elusennau Iechyd Hywel Dda helpu osod monitorau cardiaidd yn Ysbyty Llwynhelyg

MAE Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi helpu i ariannu prosiect 18 mis uchelgeisiol, sydd wedi gweld pump a thrigain o fonitorau cardiaidd o’r radd flaenaf yn cael eu gosod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae’r monitorau cardiaidd rhwydweithiol wedi’u gosod ar draws wyth maes clinigol, yn ogystal â chwe gorsaf ddiagnostig ganolog gwbl integredig. Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu estyniad y system fonitro gardiaidd delemetreg i wardiau un, tri, pedwar a ward y pâl.

Bydd y monitorau yn lleihau’r angen i symud cleifion o amgylch yr ysbyty ac yn eu galluogi i gael eu gofal yn y lleoliad mwyaf priodol.

Man cychwyn y llwybr clinigol yw’r Adran Achosion Brys, lle caiff cleifion eu derbyn i orsaf fonitro gardiaidd. Caiff demograffeg electrocardiogram (ECG) llawn y claf ei gofnodi’n barhaus, a chaiff pob eiliad o ddata demograffig ECG y claf ei lanlwytho’n ddi-dor i’r orsaf ganolog. Mae hyn yn cynnwys yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr adran damweiniau ac achosion brys a’r daith rhwng adrannau, yn union fel pe bai’r claf wedi bod ar y ward gardiaidd ar hyd yr amser. Gall cardiolegwyr ddadansoddi’r llinell amser fanwl hon o ddata a digwyddiadau ECG ar unrhyw adeg. Yn flaenorol, ni fyddai’r data wedi bod ar gael nes i’r claf gyrraedd y ward gardiaidd.

Mae’r adrannau wedi’u cysylltu gan rwydweithiau meddygol fel y gellir gweld unrhyw fonitor mewn unrhyw adran o orsafoedd canolog y ward gardiaidd neu unrhyw fonitor ar y rhwydwaith. Gall y cardiolegydd weld monitor claf ar ffôn symudol neu ar lechen unrhyw le yn y byd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Gall y cleifion hynny sy’n gallu symud o gwmpas gael eu monitro’n fanwl o’r orsaf gardiaidd ganolog, heb gael eu cyfyngu i’w gwelyau gan geblau. Mae’r cleifion wedi’u cysylltu â throsglwyddydd telemetreg bach, yn un maint â ffôn symudol, y maent yn ei gario o gwmpas gyda nhw. Mae ganddynt yr hyblygrwydd i gwrdd â pherthnasau ar y llawr gwaelod neu y tu allan i flaen yr ysbyty, a hynny wrth gael eu monitro ar yr un pryd yn yr orsaf ganolog ar y ward gardiaidd.

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, y Pennaeth Peirianneg Glinigol:

“Mae’r system newydd hon yn ein galluogi i fonitro data amser real ein cleifion, gan sicrhau gofal a chymorth cyflym, hyblyg ac o ansawdd uchel i gleifion.

“Rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnaed gan y tîm Peirianneg Glinigol yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn.

Meddai Dr Nikolaos Anatoliotakis, Cardiolegydd Ymgynghorol:

“Y system fonitro gardiaidd o bell hon yw’r datblygiad arloesol mwyaf ym maes monitro cleifion yn ein hysbyty ers amser hir iawn. Mae’r effaith ar ofal cleifion yn enfawr, gan fod hyn yn galluogi meddygon a nyrsys i gael data ECG amser real ledled yr ysbyty. Rydym i gyd yn falch iawn o’r datblygiad arloesol hwn, sy’n feincnod, a hoffem ddiolch i bawb am eu holl waith caled ar y prosiect hwn.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda:

“Rydym wrth ein bodd bod rhoddion elusennol wedi gallu cefnogi’r prosiect arloesol hwn a fydd yn dod â buddion gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd, ac i staff yr ysbyty sy’n darparu eu gofal a’u triniaeth. Mae’n enghraifft berffaith o’r modd y gall rhoddion i’r elusen alluogi’r broses o ddarparu’r offer meddygol mwyaf diweddar ar gyfer diagnosis a thriniaeth yn ein hysbytai lleol.”

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn codi arian ac yn ei ddosbarthu er mwyn gwella gwasanaethau lleol y GIG trwy’r dulliau canlynol:

Cynnig cysur ychwanegol i gleifion i wneud yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus;

Darparu’r offer meddygol diweddaraf ar gyfer diagnosis a thriniaeth;

Creu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, eu teuluoedd ac i staff;

Cefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i staff yn ogystal â mentrau lles;

Gwella gofal yn ein cymunedau lleol;

Ariannu prosiectau ymchwil i wella ein dealltwriaeth o driniaethau newydd a thriniaethau sydd ar y gweill; a hefyd

Darparu mentrau byw yn iach a hybu iechyd.

 

%d bloggers like this: