04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Enillydd cystadleuaeth cynllunio cerdyn llyfrgell i blant Casnewydd yw Alfie Downs 8 oed

MAE Llyfrgelloedd Casnewydd yn falch iawn o gyhoeddi mai enillydd y gystadleuaeth i gynllunio cerdyn llyfrgell yw Alfie Downs 8 oed.  Dewiswyd ei ymgais oherwydd ei ddyluniad cryf sy’n cyfleu cariad at ddarllen ynghyd â symbol eiconig o Gasnewydd.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn gynnar yn 2020 ond, oherwydd pandemig Covid-19, bu’n rhaid gohirio cyhoeddi’r dyluniad buddugol.

Roedd y safon mor uchel fel bod beirniadu bron yn amhosibl, ar y panel beirniadu dwedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden:

“A bod yn deg, rwy’ wedi bod yn pendroni dros y rhain gan eu bod i gyd yn enillwyr teilwng! Yn y pen draw, o drwch blewyn dewiswyd cynnig Alfie fel yr enillydd.”

Roedd y ceisiadau o safon mor uchel fel y penderfynwyd cyflwyno gwobr i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer, Caitlin Taylor, Jack Bland, Alice Bidhendy, Nandinee Singh a Thea Cottingham – gyda gwobr arbennig yn cael ei dyfarnu i Alfie yr enillydd.  Bydd ei ddyluniad yn cael ei roi ar bob cerdyn llyfrgell newydd i blant.

%d bloggers like this: