03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

Estyniad i’r gefnogaeth ar gyfer ymdrechion gwirfoddoli allweddol

MAE Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, wedi cyhoeddi fod y Gronfa Argyfwng ar gyfer Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol yn cael ei lansio i gymryd lle’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol o ddydd Llun, (Awst 17). Cyhoeddir y canllawiau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa newydd maes o law.

Caewyd y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol, sydd wedi dyfarnu bron i £7.1 miliwn mewn cyllid grant ar gyfwng i sefydliadau gwirfoddol hyd yn hyn, ar 7 Awst eleni ond bydd sefydliadau’r trydydd sector yn parhau i allu cael mynediad at gyllid i gefnogi’r trydydd sector a pharhau i chwarae rhan enfawr yn ymdrechion adfer Cymru.

Dywedodd Jane Hutt:

“Rydym wedi cydweithio’n agos â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru drwy gydol y pandemig Covid-19 gan helpu elusennau a sefydliadau’r trydydd sector i ehangu ac addasu er mwyn diwallu anghenion penodol y cyfnod heriol hwn. Mewn cyfnod o 14 wythnos, mae Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu bron i £7.1 miliwn i 156 o sefydliadau gwirfoddol a fu’n gweithio ar y rheng flaen i gefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae elusennau, sefydliadau yn y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol wrth i ni ymateb i’r argyfwng Covid-19, ac ni fydd ein cefnogaeth i’r sector gwirfoddol yn dod i ben yma. Wrth i fywyd gychwyn dychwelyd i normal newydd, ac wrth i’r cyfnod gwarchod ddod i ben ym mis Awst, byddwn yn agor cynllun cyllido newydd i helpu sefydliadau i ddiwallu anghenion newydd ac ymateb i heriau newydd.

“Bydd modd gwneud cais i’r Gronfa Argyfwng ar gyfer Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol o 17 Awst. Bydd yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas sydd wedi dod i’r amlwg, a hynny’n boenus o eglur weithiau, yn ystod pandemig Covid-19.

“Mae llawer o gymunedau wedi dioddef mewn modd anghymesur, ac maent yn parhau i wynebu sefyllfaoedd brys. Bydd y gronfa newydd yn helpu’r trydydd sector i gyflenwi gwasanaethau hanfodol ar draws Cymru ac i addasu i fodloni anghenion newydd, er enghraifft anghenion yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol.

“Rwyf am achub ar y cyfle i gydnabod a dathlu’r cyfraniad amhrisiadwy y mae’r trydydd sector eisoes wedi’i wneud yng Nghymru, a diolch iddynt am fod mor barod i helpu a rhoi cymorth yr oedd ei angen yn ddirfawr arnom yn ystod cyfnod heriol tu hwnt. Diolch am eich gwaith diflino yn cefnogi cymunedau drwy Gymru. Mae eich ymroddiad wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i ni.”

Medd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae gweld y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan fudiadau gwirfoddol i gynorthwyo aelodau mwyaf bregus o’n cymdeithas yng Nghymru drwy’r cyfnod hwn, wedi bod yn brofiad ysbrydoledig. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi’r gwaith hwnnw, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, drwy’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol.

“Erbyn hyn, a ninnau’n gweld y cyfyngiadau’n cael eu llacio’n raddol, mae anghenion y sector gwirfoddol yn newid. Mae’n bwysig ein bod yn addasu ein cymorth, a diben y cynllun grant argyfwng hwn, i alluogi sefydliadau gwirfoddol i fynd i’r afael a’r heriau gwahanol sy’n ein wynebu dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Helen Hughes, Cydlynydd Elusennol yn Stephens and George Charitable Trust, sydd wedi elwa ar gyllid gan y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol:

“Mae cyllid o’r Gronfa wedi’n galluogi ni fel Ymddiriedolaeth Elusennol i roi cefnogaeth i dros 1000 o bobl yr wythnos. Mae’r arian wedi caniatáu i ni brynu bwyd i gefnogi plant Teuluoedd mewn Angen, pobl hŷn sy’n ynysig, pobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl cael Covid-19, a phobl ifanc sydd wedi colli eu swyddi rhan-amser yn ystod yr argyfwng a heb arian i brynu bwyd.

“Heb gymorth parseli bwyd rhad ac am ddim yn ystod argyfwng Covid-19, neu heb wirfoddolwyr yn mynd o dŷ i dy, byddai llawer un wedi bod heb gymorth o gwbl, ac yn hollol ynysig a bregus.

“Mae cyllid o’r gronfa wedi caniatáu i’r elusen gefnogi a gofalu am yr anghenus, a lleddfu ychydig ar effeithiau negyddol Covid-19.”

Medd Tarakanatha Dasa o Food for Life Cymru:

“Diolch i gymorth hael y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol, rydym wedi gallu cysylltu â thros 200 o wirfoddolwyr i gyrraedd dros 3,000 o unigolion mewn mwy na 900 o gartrefi, 25 o feddygfeydd teulu, 15 ysbyty, 15 cartref gofal, 5 gorsaf gwasanaethau brys a llawer mwy o sefydliadau eraill.

“Rydym newydd basio’r garreg filltir o gyflenwi 45,000 o brydau bwyd! Diolch i’ch cyllid chi, gallwn adeiladu ar ein llwyddiant a pharhau i ddarparu gofal a chymorth i bawb sydd ei angen, y tu hwnt i argyfwng Covid-19.”

Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector ar agor o hyd ar gyfer ceisiadau, a bydd yn parhau i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i elusennau a sefydliadau’r trydydd sector er mwyn helpu i dalu biliau a gwella’r llif arian.

 

%d bloggers like this: