03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ethol y Cyng. Kevin Madge yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

DYWEDODD Cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd yn gweithio’n ddiflino yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Mae’r Cynghorydd Kevin Madge, aelod dros Y Garnant, yn ymgymryd â chadwyn y swydd wrth ddathlu 40 mlynedd yn gynghorydd.

Wrth gymryd y gadair,  rhoddodd y Cynghorydd Madge deyrnged i’r cyn-gadeirydd y Cynghorydd Mansel Charles, yr aelod dros Lanegwad, gan ddweud ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau gydag angerdd.

Bydd y Cynghorydd Madge yn cadeirio’r Cyngor am y 12 mis nesaf, gyda’r Cynghorydd Ieuan Davies, yr aelod dros Lanybydder fel ei is-gadeirydd, a’i wraig Catrin yn gydymaith iddo.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn sydd i ddod, byddaf yn gwneud fy ngorau glas dros bawb. Byddaf yn gweithio’n ddiflino,” meddai.

Mae’r Cynghorydd Madge wedi dewis Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd a darpariaeth bwyd brys i bobl mewn argyfwng, fel Elusen y Cadeirydd am y flwyddyn .

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’n cael ei ethol yn y Cyfarfod Blynyddol.

Mae’r dyletswyddau’n cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor ar achlysuron ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a mynychu a chefnogi digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol.

Mae’r Cynghorydd Madge wedi bod yn gynghorydd sir ers 1996, ac yn aelod o Gyngor Tref Cwmaman ers 1979.

Mae hefyd yn Gadeirydd Cangen Garnant y Lleng Brydeinig Frenhinol, Canolfan Deulu’r Garnant a Phryd ar Glud Cwmaman, ac mae’n aelod o Gymdeithas Cyfeillion Dyffryn Aman.

Mae’n cynrychioli’r Cyngor Sir ar awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws, ac mae ar gorff llywodraethu Ysgol y Bedol.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Aman, mae’r Cynghorydd Madge wedi gweithio yn Nyffryn Aman drwy gydol ei oes, yn fwyaf diweddar fel asiant ac ymchwilydd i Dr Alan Williams AS tan 2001.

Yn gefnogwr pêl-droed brwd, mae wedi gwasanaethu yn Gadeirydd a Llywydd Clwb Pêl-droed Cwmaman ac wedi treulio 25 mlynedd yn ddyfarnwr pêl-droed Cynghrair Cymru a Chastell-nedd a’r Cylch.

Mae’n briod gyda dau o blant a thri o wyrion.

%d bloggers like this: