DDYDD Iau, bydd trigolion Caerdydd yn pleidleisio i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal heddlu leol hon.
Mae gwaith cynllunio wedi bod ar y gweill ers misoedd i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio ar 6 Mai. Gall preswylwyr sydd wedi dewis bwrw eu pleidlais mewn person ddisgwyl gweld llawer o’r mesurau yr ydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn siopau a chyfleusterau dan do eraill, megis defnyddio hylif diheintio dwylo, marciau llawr i helpu gydag ymbellhau cymdeithasol a’r angen i wisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi’ch eithrio
Efallai y bydd angen i bleidleiswyr giwio i fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio, gan y bydd terfyn ar nifer y bobl a ganiateir yn yr adeilad ar un adeg. Bydd systemau unffordd ar waith mewn llawer o’r gorsafoedd a gofynnir i bleidleiswyr gydymffurfio â’r arwyddion sydd mewn lle i helpu pobl i fynd i mewn ac allan o’r adeilad yn ddiogel.
Efallai y bydd preswylwyr am ddod â’u pensil eu hunain i farcio eu papur pleidleisio, er y bydd cyflenwadau hefyd ar gael yn yr orsaf bleidleisio.
Bydd staff yn yr orsaf bleidleisio yn glanhau’n rheolaidd drwy gydol y dydd i helpu i gadw pleidleiswyr yn ddiogel a helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.
Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Lleol Caerdydd:
“Bydd etholiadau’r wythnos hon yn wahanol i unrhyw rai eraill o’r blaen ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i greu amgylchedd diogel i bleidleiswyr a staff yn ein gorsafoedd pleidleisio ledled y ddinas. Bydd mesurau diogelu amrywiol ar waith ar y diwrnod, trefniadau tebyg i’r rhai sydd wedi dod yn rhan o’n harferion bob dydd ers dechrau’r pandemig.”
Etholiad dydd Iau fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys allu pleidleisio dros Aelodau o’r Senedd. Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws neu y gofynnwyd iddo hunanynysu fynychu gorsaf bleidleisio.
Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych argyfwng sy’n golygu na allwch bleidleisio’n bersonol, gallwch wneud cais am ddirprwy brys. Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn dyddiad cau arferol y bleidlais drwy ddirprwy ac mae’n cynnwys yr angen i hunanynysu oherwydd COVID-19.
Gellir gwneud ceisiadau Dirprwy Brys hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
More Stories
Conservatives’ Lack of Action on Obscene Energy Profits “Indefensible” says Welsh Lib Dems
New Audit Office Report on Poverty in Wales supports Plaid Cymru’s calls
Successful Operation targeting anti-social driving across Newport and Monmouthshire