03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE ffair adeiladau rhestredig yn cael ei threfnu gan Ganolfan Tywi, sef hyfforddiant sgiliau adeiladu traddodiadol a chanolfan addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

Y ffair hon fydd y gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y ganolfan ac mae’n rhoi cyfle i bobl ddysgu am y gwaith a wneir ar adeiladau hanesyddol.

Cynhelir y ffair ddydd Sadwrn, 9 Chwefror, ym Mhlas Dinefwr, Parc Dinefwr, Llandeilo rhwng 9.30am a 5pm.

Gwahoddir perchnogion a cheidwaid adeiladau traddodiadol – rhai rhestredig a rhai na restrwyd – i’r digwyddiad, ynghyd â chontractwyr, asiantau, penseiri a syrfewyr.

Dywedodd Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Caerfyrddin: “Bydd hwn yn ddiwrnod llawn gwybodaeth gan bobl sy’n dwlu ar eich cartref gymaint â chi! Byddwn ni yma i’ch helpu i ateb unrhyw gwestiynau a mynd i’r afael â’r holl broblemau sydd ynghlwm ag adeiladau rhestredig.

“Bydd digon o arbenigwyr yn bresennol sydd ag ystod eang o wybodaeth am adeiladau rhestredig, atgyweirio a chynnal a chadw, effeithlonrwydd ynni, hyfforddi a datblygu, a’r broses ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig.”

Bydd hefyd stondinau masnach ar gael gan arbenigwyr ym meysydd contractio, cyflenwi, asiantau, penseiri, swyddogion cadwraeth adeiladau, Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer mwy.

Yn ogystal, bydd 6 o sgyrsiau llawn gwybodaeth yn rhad ac am ddim yn cael eu cynnal yn ystod y dydd.

· 10am – Pam mae angen i hen adeiladau anadlu: adeiladwaith, deunyddiau a dulliau’r gorffennol

· 11am – Canllaw sylfaenol i galch a’i ddefnyddiau

· 12pm – Cymorth yn ymwneud â cheisiadau adeiladau rhestredig: ffynonellau gwybodaeth a chymorth

· 1pm – Atgyweirio a Chynnal a Chadw

· 2pm – Effeithlonrwydd Ynni

· 3pm – Fforwm Trafodaeth Agored.

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Nell Hellier a Tom Duxbury o Ganolfan Tywi a Cliff Blundell o Gwmni Calch Gorllewin Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://www.canolfantywi.org.uk/beth-sydd-ymlaen/ neu ffoniwch y ganolfan: 01553 824271.

%d bloggers like this: