04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ffeindiwch dag a bachwch £1000 yng nghystadleuaeth pysgota tag Llyn Brenig!

MAE ffermwyr pysgod yn Llyn Brenig ger Dinbych wedi gosod tagiau ar nifer o bysgod
yn barod ar gyfer cystadleuaeth pysgota tag, a fydd yn dechrau ar y llyn
ar 18 Mawrth. I ddathlu dechrau’r tymor pysgota, bydd y gystadleuaeth
thag a gaiff eu rhyddhau i’r llyn trwy gydol y tymor.

Yn ogystal â’r stoc arferol, mae 300 o frithyll seithliw mawr
ychwanegol yn cael eu rhyddhau ar gyfer y tymor hwn. Mae rhai ohonynt
dros 10 pwys!

Mae cystadlaethau pysgota tag yn boblogaidd iawn yn UDA ac maent yn
rhedeg mewn nifer o wledydd eraill hefyd, gan gynnwys Awstralia. Mae’r
amodau yn Llyn Brenig a’r stoc o bysgod yn berffaith i bysgotwyr, a gyda
gwobr gyntaf o £1,000, mae hi’n sicr yn werth roi cynnig ar y
gystadleuaeth hon!

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae’r tagiau pysgod yn cael eu gosod wrth ymyl yr asgell ddorsal heb
wneud unrhyw niwed i’r pysgodyn. Gall pysgotwyr gasglu’r tagiau a’u
dychwelyd i Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig neu e-bostio lluniau sy’n
dangos y manylion ar y tag. Mae angen hawlen bysgota ddilys i bysgota yn
Llyn Brenig. Gellir prynu’r rhain ar lein neu yn y ganolfan ymwelwyr.

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg drwy’r tymor tan 3 Tachwedd, a bydd raffl
y diwedd blwyddyn ar 5 Tachwedd yn defnyddio manylion y tagiau a gesglir
yn ystod y tymor.

Gwobr 1af – £1,000 arian parod; 2il wobr – tocyn tymor lawn a’r 3ydd wobr – tocyn hanner tymor

Mae Dŵr Cymru’n unigryw yn y diwydiant dŵr am ei fod mewn
perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid. Mae’r cwmni wedi bod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae’r holl elw
ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid

%d bloggers like this: